Gweithredwr Symudol Diogelwch - Barry, United Kingdom - Vale of Glamorgan Council

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Amdanom ni**
Ymgymryd â chyfrifoldebau Prif Weithiwr yn y grŵp diogelwch a chynorthwyo â swyddogaethau eraill o fewn y tîm diogelwch.

**Ynglŷn â'r rôl** Manylion am gyflog**:Gradd 4, PCG 5-7, £21,575 - £22,369 pa

**Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio**:Dydd Llun i ddydd Gwener.

**Amser tymor** 37awr/wythnos

**Prif Waith**:Yr Alpau

**Disgrifiad**:

- Ymgymryd â chyfrifoldebau Prif Weithiwr fel; gwybodaeth staff / gwasanaeth casglu, cyflenwi sifftiau gwag a threfnu rhestri dyletswydd, cwblhau cyfweliadau dychwelyd i'r gwaith, adrodd digwyddiadau i'r goruchwyliwr diogelwch a chynorthwyo gydag amryw gyfathrebiadau a strategaethau staff eraill fel y'u gweithredir gan yr awdurdod.
- Ymateb yn amserol pan fo'r larwm yn cael ei actifadu a phan fo achosion o dôr-diogelwch.
- Cynnal patrolau symudol effeithiol yn fewnol ac yn allanol yn ôl yr angen.
- Darparu gwasanaeth agor a chau ar gyfer safleoedd sy'n eiddo i'r awdurdod.
- Cynnig cymorth llafurio cyffredinol yn ôl yr angen.
- Cynnig gwasanaeth glanhau a chynnal draeniau effeithiol i eiddo a charthffosydd y cyngor.
- Cysylltu â thenantiaid, swyddogion y cyngor, contractwyr awdurdodedig a rhanddeiliaid eraill yn ôl yr angen i sicrhau gwasanaeth effeithiol.
- Sicrhau y cydymffurfir â Rheoliadau Ariannol, Rheolau Sefydlog, Polisïau a Gweithdrefnau'r Cyngor.
- Rhoi egwyddorion Polisi Cyfle Cyfartal y Cyngor ar waith wrth gyflawni'r dyletswyddau uchod.
- Rhoi gwybod i'r swyddog diogelu priodol am unrhyw bryderon diogelu yn ddi-oed.

Unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau eraill sy'n gymesur â'r radd ac yn unol â nodweddion cyffredinol y swydd fel y gellid eu disgwyl yn rhesymol gan y Prif Swyddog o dro i dro

**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:

- Profiad gwarchod diogelwch.
- Profiad blaenorol o weithio mewn gwasanaeth sy'n cadw at derfynau amser penodol.
- Profiad o oruchwylio'r gweithlu.
- Profiad blaenorol o weithio mewn gwasanaeth sy'n cadw at derfynau amser penodol
- Gwybodaeth gref am weithdrefnau diogelwch sylfaenol.
- Gwybodaeth ddaearyddol dda am Fro Morgannwg.
- Sgiliau llafar a llythrennedd da.
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â chydweithwyr, swyddogion cleientiaid a'r cyhoedd.
- Gallu cyflawni dyletswyddau codi a chario a llafurio corfforol.
- Cyflawnwyd Gwobr Lefel 2 mewn Gwarchod Diogelwch.
- Trwydded ADD Cyfredol.
- Cadarnhaol a hunangymhellol gyda'r gallu i fod yn hyblyg ac yn ymatebol i newidiadau mewn blaenoriaethau a galw.
- Y gallu i gymell eraill.
- Rhaid gallu gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun a chyflawni dyletswyddau'n effeithiol.
- Gallu gweithio'n dda mewn tîm, gan gyfrannu'n gadarnhaol at ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel.
- Trwydded yrru lawn.
- Bod yn barod i weithio oriau afreolaidd.

Y gallu i yrru / teithio ledled y Fro neu rhwng lleoliadau fel y bo'n briodol

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Angen Gwiriad DBS: N/A

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Steve Ackerman

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.

Job Reference: EHS00451

More jobs from Vale of Glamorgan Council