Gweithiwr Cymdeithasol Ardal - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

2 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Ynglŷn â'r Gwasanaeth**
Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru.

Mae Caerdydd yn cynnig y cyfle i dyfu a datblygu drwy hyfforddiant o ansawdd uchel, goruchwyliaeth reolaidd ac effeithiol, ac amrywiaeth eang o gyfleoedd i ddilyn datblygiad gyrfaol, er enghraifft eleni mae 10 gweithiwr mewnol wedi cynyddu i swyddi uwch o fewn ein timau Gwaith Cymdeithasol.

Rydym wedi ailgynllunio ein gwasanaethau i ddilyn taith y plentyn a chreu timau ardal sy'n galluogi gweithwyr i gysylltu'n agos â chymunedau a gwasanaethau lleol. Mae diwylliant iach o ddysgu, cymorth a theulu ar draws ein timau gwaith cymdeithasol anhygoel.

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy'n rhoi'r unigolyn wrth wraidd ein gwaith. Mae'r timau'n gweithio yn ôl dull sy'n seiliedig ar gryfderau (Arwyddion Diogelwch) er mwyn bodloni anghenion pobl ifanc a'u teuluoedd. Mae gennym amrywiaeth amrywiol o waith achos, cefnogaeth unigol, ymroddedig a rheolaidd gan uwch reolwyr ochr yn ochr â chyfleoedd dilyniant i'r ymgeiswyr llwyddiannus.

Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain ac mae'n ymrwymedig i ddod yn 'Ddinas sy'n Dda i Blant' sy'n rhoi hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd ein polisïau a'n strategaethau. Rhieni sy'n cael y dylanwad mwyaf ar blant a'u dyfodol. Yn ein barn ni, mae plant yn cyflawni'r canlyniadau gorau pan gânt eu cynorthwyo i dyfu a llwyddo o fewn eu teuluoedd eu hunain. Y gred hon arweiniodd at ddefnyddio'r dull 'Ffocws ar y Teulu', sy'n ystyried y teulu cyfan ac yn cydlynu cymorth ar draws y gwasanaethau cyhoeddus, wedi'i deilwra i anghenion a chryfderau pob teulu. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o ymdrech Caerdydd i fod yn un o'r dinasoedd mwyaf bywiog a llwyddiannus yn y DU, sy'n rhoi plant yn gyntaf, gyda'r uchelgais o arwain y ffordd o ran datblygu arfer yng Nghymru, byddem yn falch iawn o glywed gennych.
**Ynglŷn â'r Swydd** Manteision a gynigir**

Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig.
- Hawliad gwyliau blynyddol helaeth yn dechrau gyda 28 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 33 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod.
- Mae ein diwylliant gweithio yn hyblyg, gyda chynllun oriau hyblyg yn eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i chi.
- Mynediad i Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwgsy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel a hyblyg, dibynadwy, ar gyfer tawelwch meddwl.
- Llwyth achos cyfartalog o 20
- Yn weithredol o 1 Ebrill 2023, bydd y rolau hyn yn gymwys ar gyfer taliad atodol marchnad o £5,000 (cyfwerth ag amser llawn). (£41,298- £45,478). Adolygir y taliad hwn bob 12 mis.

Dyma ychydig o'r hyn sydd gan Gaerdydd i'w gynnig, edrychwch ar ein gwefan Gwaith Cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth am ein holl fanteision a chlywed gan rai o'n gweithwyr cymdeithasol, sy'n canu clod Caerdydd.
- Hafan - Gwaith Cymdeithasol Caerdydd: Gwaith Cymdeithasol Caerdydd

Mae timau Diogelu a Phlant Caerdydd bellach wedi'u lleoli mewn 3 ardal ar draws y ddinas, yn Llaneirwg yn y Dwyrain, y Tyllgoed yn y Gogledd a Bae Caerdydd yn y De gan alluogi staff i fod wedi'u lleoli yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. O fewn ardal ddaearyddol y tîm, byddwch yn cefnogi plant a phobl ifanc trwy gynnal asesiadau cadarn, cynllunio sy'n canolbwyntio ar ddeilliannau ac ymyriadau effeithiol i'w cefnogi wrth gyflawni deilliannau cadarnhaol o fewn eu teuluoedd a'u cymunedau. Gan weithio o fewn dull ymarfer adferol, byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd a chydweithwyr amlasiantaethol wrth ymyrryd i fynd i'r afael â'r pryderon sy'n codi a'r anawsterau sy'n sail iddynt.
**Yr Hyn Rydym yn ei Ddisgwyl Gennych Chi**
Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol profiadol. Mae'n rhaid i'r ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar brofiad cadarn o ddiogelu ac amddiffyn plant a bod yn hyderus o ran achosion llys. Fel gweithiwr cymdeithasol amddiffyn plant, rhaid i chi fod yn hyblyg a gallu gweithio dan bwysau. Oherwydd natur y rôl, mae'n rhaid bod gan ymgeiswyr brofiad ôl-gymhwyso rheng flaen mewn gwasanaethau amddiffyn plant. Mae gradd mewn Gwaith Cymdeithasol yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, ynghyd â sgiliau asesu rhagorol a'r gallu i ysgrifennu cofnodion ac adroddiadau cryno. Byddwch yn weithiwr tîm da ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, yn ogystal â sgiliau TG.

Rydym hefyd yn hysbysebu ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Gradd 7. Er eich bod yn gwneud cais am y rôl hon, byddwn hefyd yn eich ystyried ar gyfer y swydd Gradd 7 a'r cyflog cysylltiedig os byddwn yn credu

More jobs from Cardiff Council