Swyddog Cymorth Trwyddedu - Barry, United Kingdom - Vale of Glamorgan Council

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Amdanom ni**
Mae'r Tîm Gorfodi Tai yn gyfrifol am gynnal safonau tai, yn enwedig yn y sector rhentu preifat. Mae'r tîm yn delio â chwynion gan denantiaid am eu llety byw ac mae'n canolbwyntio'n benodol ar drwyddedau Tai Amlfeddiannaeth. Yn ogystal, mae dyletswyddau'n ymwneud â niwsans statudol, safleoedd aflan a lle mae plâu ac eiddo gwag sy'n achosi problemau.

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion y Cyflog: Gradd 5 £22,777 i £24,496 y flwyddyn

Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener

Prif Weithle: Neuadd y Sir Caerdydd

**Disgrifiad**:
Byddwch yn gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i'r cyhoedd ar ymholiadau trwyddedau Tai Amlfeddiannaeth, gan ateb ymholiadau cwsmeriaid mewn perthynas â rheolau, gweithdrefnau a chanllawiau trwyddedau Tai Amlfeddiannaeth. Bydd deiliad y swydd yn cyflawni swyddogaethau gweinyddol mewn perthynas â thrwyddedau Tai Amlfeddiannaeth; cyhoeddi ceisiadau, logio ceisiadau wedi'u cwblhau, drafftio dogfennau trwydded, diweddaru cronfeydd data a mynd ar drywydd ceisiadau, ffioedd a dogfennau sy'n weddill.

**Amdanat ti** Bydd angen y canlynol arnoch chi**:

- Profiad o ddarparu cyngor i gwsmeriaid ac ymateb i ymholiadau cwsmeriaid.
- Y gallu i ddatblygu dealltwriaeth dda o reolau, rheoliadau a gweithdrefnau trwyddedau Tai Amlfeddiannaeth, a all fod yn gymhleth.
- Y gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig â busnesau ac aelodau o'r cyhoedd.
- Gallu blaenoriaethu a bodloni terfynau amser.
- Sgiliau TG da a medrus o ran defnyddio meddalwedd Microsoft, gan gynnwys Word, Excel, Access a PowerPoint
- 5 TGAU neu gyfwerth, gyda Mathemateg a Saesneg yn ddymunol

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Oes angen gwiriad GDG: Nac oes

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Julian Love

Gweler y disgrifiad swydd/manyleb person atodedig i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: EHS00429

More jobs from Vale of Glamorgan Council