Mentor Cyflogaeth Gymunedol - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Ynglŷn â'r Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig â sgiliau gofal cwsmeriaid ardderchog ymuno â'n Tîm Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i gynnig gwasanaeth wyneb yn wyneb proffesiynol i roi help mentor i gyfranogwyr sy'n byw yng Nghaerdydd, rhoi cymorth ymarferol o ran sgiliau chwilio am swydd a cheisiadau am swyddi a chynorthwyo cleientiaid i baratoi CVs perthnasol, priodol a phroffesiynol i gynorthwyo cleientiaid i 'fynd yn ôl i'r gwaith'.
**Ynglŷn â'r Swydd**
Bydd y swydd hon yn gweithio ar ein Prosiect Cymunedau am Waith a Mwy. Bydd y Prosiect yn cefnogi cwsmeriaid di-waith ac economaidd anweithgar yn y tymor byr-canolig i'w helpu i oresgyn rhwystrau cymhleth rhag cyflogaeth.

Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu dangos dealltwriaeth o'r problemau sy'n wynebu cwsmeriaid sy'n ceisio cyflogaeth barhaus; ac sy'n meddu ar y gallu i'w helpu i gael gwaith.
**Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych chi**
Bydd gennych brofiad o weithio mewn maes sy'n gysylltiedig â chwilio am waith.

Bydd gennych brofiad o weithio wyneb yn wyneb â chwsmeriaid a phrofiad o gynnig cymorth mentor mewn lleoliad cyflogaeth. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a TG da a byddwch yn gallu datrys anghydfod mewn modd cadarnhaol ac adeiladol.

Byddwch yn cynorthwyo cyfranogwyr i symud yn agosach at gyfleoedd cyflogaeth a chael mynediad i gronfa rhwystrau i gael hyfforddiant.

Byddwch yn gweithio'n dda mewn tîm, yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol ac yn weithiwr hyblyg.

Byddai'r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn benodol Cymraeg/Saesneg, Somalieg, Arabeg, Bwyleg neu Wcrainiad, o fantais.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae 2 swydd dros dro ar gael tan 31/03/2025.

Mae'r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Efallai y bydd angen gweithio rhywfaint gyda'r nos ac ar y penwythnos.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr/ Cyfarwyddwr Cynorthwyol/ Prif Swyddog neu'r uwch swyddog enwebedig ar radd swydd heb fod yn is na RhG2 neu yn achos staff mewn ysgolion y Pennaeth / Corff Llywodraethu, gall gymeradwyo ceisiadau.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03877

More jobs from Cardiff Council