Cymorthydd Addysgu Lefel Uwch - Barry, United Kingdom - Vale of Glamorgan Council

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Amdanom ni**
Mae'r rôl o fewn Darpariaeth Arbenigol Bro Morgannwg sy'n rhan o Gyfarwyddiaeth Lles ac ADY Bro Morgannwg. Lleolir y swydd yng Nghanolfan Adnoddau Arbenigol newydd yn Ysgol Gwaun y Nant.

Bydd y rôl yn cynnwys gweithio gyda disgyblion o fewn yr ystod oedran cynradd, yn y Ganolfan Adnoddau ac ar draws Bro Morgannwg trwy allgymorth. Mae'r rôl yn cynnwys goruchwylio cymorthyddion dysgu eraill a chydweithio ag athro arbenigol. Byddwch yn rhan o dîm bach ond egnïol a chefnogol sy'n frwd dros gefnogi disgyblion ag ADY

**Ynglŷn â'r rôl**

30 awr: 5 diwrnod yr wythnos

Gradd 6, pwynt graddfa 14-19

Lwfans ADY

Prif weithle : Ysgol Gwaun Y Nany, Y Barri, Bro Morgannwg, ond yn ymestyn ar draws Bro Morgannwg mewn ysgolion a lleoliadau Blynyddoedd Cynnar

Disgrifiad:
Cyfle cyffrous i ymuno â'n tîm cefnogol yn y Ganolfan Ragoriaeth newydd yn Ysgol Gwaun Y Nant. Mae'r rôl yn cynnwys cefnogi disgyblion ag anghenion cyfathrebu cymdeithasol, rhyngweithio neu anawsterau rheoleiddio, i gael mynediad i'r cwricwlwm gan ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau arbenigol a'u galluogi i gymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd ysgol. O ddydd i ddydd, golyga hyn gefnogaeth dosbarth i ddisgyblion unigol a gwaith un i un neu waith grŵp bach o fewn y Ganolfan Adnoddau.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda disgyblion ag anghenion cyfathrebu cymdeithasol, rhyngweithio neu reoleiddio ar draws Camau Cynnydd 1 i 3.

Efallai y bydd y rôl yn gofyn am gefnogi'r Athro Arbenigol gyda gwaith allgymorth / pontio mewn ysgolion eraill ym Mro Morgannwg pan fo angen.

Gweler y disgrifiad swydd am fanylion pellach

**Amdanat ti**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymarferydd rhagorol, gyda lefel dda o Gymraeg a Mathemateg a gallai fod yn fodel rôl da.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddiddordeb ac angerdd am ADY ac yn benodol ASD a gorbryder.

Bydd angen:

- Dealltwriaeth o wahanol anghenion addysgol a chymdeithasol disgyblion ag anghenion cyfathrebu cymdeithasol, rhyngweithio neu reoliad. Dealltwriaeth o effeithiau anhawterau cyfathrebu cymdeithasol, rhyngweithio neu rheoleiddio ar ddysgu
- Profiad blaenorol a diweddar o weithio gyda phlant mewn lleoliad cynradd
- Y gallu i gefnogi disgyblion ag anghenion cyfathrebu cymdeithasol, rhyngweithio neu anawsterau rheoleiddio ar draws holl feysydd y cwricwlwm
- Sgiliau cyfathrebu effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Sgiliau dadansoddi a datrys problemau da
- Gallu gweithio'n annibynnol gyda blaengaredd ond hefyd fel rhan o dîm
- Sgiliau trefnu da
- Bod yn barod i, a medru dysgu sgiliau newydd
- Y gallu i hybu dysgu annibynnol disgyblion
- Bod yn barod i ymgymryd â hyfforddiant perthnasol yn ôl yr angen
- Parodrwydd i wneud gwaith allgymorth dan gyfarwyddyd yr Athro/Athrawes Arbenigol yn ôl yr angen
- awydd i weithio gyda chymorthyddion eraill a'u hysbrydoli

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Gwiriad DBS yn ofynnol

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Sarah Redrup, Rheolwr Gweithredol ADY



Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person atodedig am ragor o wybodaeth.

Job Reference: LS00312

More jobs from Vale of Glamorgan Council