Welsh Headings - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

2 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Swyddog Cyngor Digartrefedd yn y Gwasanaeth Dewisiadau Tai. Mae'r Gwasanaeth Dewisiadau Tai yn rhoi cyngor a chymorth i bobl ag anghenion tai yng Nghaerdydd.

**Am Y Swydd**

Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd hon gyflawni nifer o swyddi o fewn y gwasanaeth gan gynnwys cynorthwyo â gwaith y Swyddogion Tai gan roi cyngor a chymorth ar y pwynt cyswllt cyntaf, gyda golwg ar gynnig cymorth digartrefedd i gleientiaid sy'n agored i niwed.

Bydd hyn yn cynnwys prosesu ceisiadau digartrefedd, cynnig cyngor a chymorth, ateb ymholiadau, a rhoi cymorth gweinyddol mewn cysylltiad â digartrefedd i'r Swyddog Tai.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Disgwylir i ddeiliad y swydd feddu ar sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm rhagorol, a'r gallu i ysgogi ei hun a rheoli ei amser yn effeithiol mewn amgylchedd prysur a heriol dros ben.

Bydd profiad o weithio gyda'r cyhoedd o fantais.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae'r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Dylai ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael caniatâd cyn ymgeisio trwy lenwi ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y canlynol sy'n gallu cymeradwyo ceisiadau: y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu Uwch Swyddog Enwebedig perthnasol, nad yw ar raddfa is na RhG2, neu, yn achos staff ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02994

More jobs from Cardiff Council