Gweithiwr Gwasanaeth Tîm Troseddau Ieuenctid - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

2 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) Caerdydd yn parhau ei daith wella, lle rydym yn ymdrechu i sicrhau canlyniadau rhagorol bob amser i bob plentyn a pherson ifanc yn ein gwasanaeth.

I'n helpu i barhau â'n cynnydd cadarnhaol hyd yn hyn, rydym yn chwilio am ymarferydd GCI brwdfrydig, hunangymhellol a phrofiadol. Cynigir y swydd ar sail lawn amser** b**arhaol a bydd ei deiliad yn rhan o'r Tîm Rheoli Achosion.
**Am Y Swydd**
Bydd gennych ddealltwriaeth o'r system cyfiawnder troseddol fel y mae'n effeithio ar blant a phobl ifanc oed) sy'n troseddu; a dealltwriaeth ymarferol o egwyddorion cyfiawnder adferol a dulliau adferol, a bydd gennych brofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi'u dadrithio. Byddwch yn gallu creu perthynas gadarnhaol gyda phobl ifanc, eu teuluoedd ac asiantaethau partner.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gennych brofiad o gynnal asesiadau a rheoli achosion cymhleth, yn ogystal â chynllunio ymyriadau priodol wedi'u targedu i leihau'r risg o droseddu/aildroseddu. Byddwch hefyd yn gallu ysgrifennu adroddiadau o ansawdd uchel gan gynnwys paratoi cynigion dedfrydu a bydd yn cyflwyno gwybodaeth i'r Llysoedd pan fo angen.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â Marie Sweeney neu Angharad Thomas yn GCI Caerdydd ar
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae'r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i'r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy'n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy'n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nodwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw ar Wneud Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd

Job Reference: PEO03606

More jobs from Cardiff Council