Prif Weithiwr Cymdeithasol y Tda - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Ar hyn o bryd mae'r rôl hon yn denu Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (pro-rata), a adolygir yn flynyddol, lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 (pro-rata) a lwfansau sifftiau oriau anghymdeithasol.

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n Tîm Dyletswydd Argyfwng (TDA) fel Prif Weithiwr Cymdeithasol.

Mae'r Tîm Dyletswydd Argyfwng yn darparu gwasanaeth y tu allan i oriau, gan ymateb i argyfyngau statudol a materion gwaith cymdeithasol eraill na ellir eu gadael yn ddiogel tan y diwrnod gwaith canlynol. Mae ein gwasanaeth TDA yn drefniant partneriaeth rhanbarthol gyda Chyngor Bro Morgannwg, sy'n cael ei gynnal a'i reoli gan Gyngor Caerdydd i bob dinesydd ar draws y ddwy ardal awdurdod lleol gan gydweithio ag asiantaethau partner a gwasanaethau argyfwng eraill.

Rydym yn chwilio am unigolion ymroddedig i ymuno â'n tîm ar adeg gyffrous o ddatblygiad y gwasanaeth.
**Am Y Swydd**
Fel Prif Weithiwr Cymdeithasol TDA, byddwch yn ymrwymedig i ddiogelu a chynnal hawliau plant, pobl ifanc ac oedolion a gweithio mewn ffordd ataliol seiliedig ar gryfder. Mewn amgylchedd gwerth chweil, amrywiol ond cymhleth, byddwch yn ymdrin ag ystod o achosion o amddiffyn plant i asesiadau Deddf Iechyd Meddwl a phenderfyniadau y mae angen eu gwneud yng nghyd-destun pob achos unigol i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl. Byddwch yn ymrwymedig i weithio mewn ffordd sy'n hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant i'n holl ddinasyddion ac yn gweithio'n agos gydag asiantaethau eraill fel yr Heddlu a gweithwyr iechyd proffesiynol.

Yr oriau cytundebol fydd 18.5 awr yr wythnos, gan weithio fel rhan o rota dreigl sy'n denu lwfansau ychwanegol ar gyfer gweithio oriau anghymdeithasol. Byddwch yn cael goruchwyliaeth ffurfiol ac anffurfiol rheolaidd gan Arweinydd Gwasanaeth TDA.

***Ar hyn o bryd mae'r rôl hon yn denu Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (pro-rata), a adolygir yn flynyddol, lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 (pro-rata) a lwfansau sifftiau oriau anghymdeithasol.

Fel Gweithiwr Cymdeithasol Caerdydd, bydd gennych fynediad at ystod gynhwysfawr o adnoddau a chymorth i barhau â'ch datblygiad proffesiynol. Rydym yn cymryd lles ein staff o ddifrif ac rydym yn ymdrechu i ddarparu trefniadau gweithio cadarnhaol sy'n cefnogi ein gweithlu i deimlo eu bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi sy'n cynnwys:

- Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 27 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 32 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod.
- Mynediad i** **Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg** sy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel a hyblyg, dibynadwy, ar gyfer tawelwch meddwl.
- **Cyfleoedd hyfforddi a datblygu rhagorol** a gynigir gan dîm hyfforddiant gofal cymdeithasol gwybodus ac ymroddedig, p'un a ydych newydd gymhwyso neu'n ymarferydd profiadol sy'n arbenigwr yn eich maes.
- **Cymorth** drwy fentoriaeth ac uwch dîm rheoli sy'n cydnabod cyflawniadau ac yn dathlu llwyddiant.
- **Cyflog cystadleuol **gan gynnwys Taliad Atodol ar Sail y Farchnad, Lwfans GPIMC a lwfansau sifft oriau anghymdeithasol.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am Weithwyr Cymdeithasol cymwys sydd â phrofiad o ddiogelu oedolion a phlant. Bydd gennych wybodaeth helaeth am ddeddfwriaeth berthnasol ac yn ymrwymedig i'ch datblygiad proffesiynol parhaus. Byddwch yn meddu ar sgiliau asesu a dadansoddi rhagorol ac yn gallu gwneud asesiadau a phenderfyniadau risg cadarn mewn argyfwng. Bydd gennych brofiad o asesu risg ac anghenion cymhleth oedolion a phlant agored i niwed a byddwch yn gallu gweithio'n annibynnol ac ar y cyd â chydweithwyr ac asiantaethau partner.

Byddwch yn gallu dangos safonau uchel o ymarfer proffesiynol, gan gynnwys cadw cofnodion, cymhwysedd TGCh a throsglwyddo'n brydlon ac effeithiol i wasanaethau a chydweithwyr yn ystod y dydd. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu da ac yn gallu gweithio'n effeithiol gyda defnyddwyr gwasanaeth, cydweithwyr, uwch reolwyr a chyrff proffesiynol eraill yn ôl yr angen.

Mae gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster Gwaith Cymdeithasol cyfatebol a bod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn hanfodol yn ogystal â bod yn Weithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (GPIMC) y telir lwfans ychwanegol ar ei gyfer.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Sylwch fod ein holl swyddi a hysbysebir yma yn destun gwiriadau manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a'r fanyleb person a dywedwch wrthym sut rydych yn bodloni'r meini prawf a nodir yn y rhain wrth gwblhau eich cais, a sylwch nad ydym yn derbyn CV fel cais ar gyfer y swydd.

Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg ac ni chaiff ceisiadau yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol.

Fel arfer cynhelir cyfweliadau ar Teams, ond os byddai'n well gennych gael cyfweliad wyneb yn wyneb, rhowch wybod i ni

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth

More jobs from Cardiff Council