Hyfforddwr Academi Bêl-droed - Cardiff, United Kingdom - Cardiff and Vale College

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Swydd Wag Fewnol ac Allanol**

**Cyf: 12090**

**Teitl y Swydd**:Hyfforddwr Academi Bêl-Droed - Rhaglen Merched**

**Cytundeb**:Tymor penodol Medi 2023 i Orffennaf 2024**

**Oriau: 7 awr yr wythnos yn cynnwys gyda'r nosau a phenwythnosau**

**Cyflog: £15.16 yr awr**

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn chwilio am Hyfforddwr Academi Bêl-droed i gefnogi'r Pennaeth Pêl-droed yn rhediad o ddydd i ddydd y rhaglen Pêl-droed Merched yn CAVC.

**Ymhlith rolau a chyfrifoldebau allweddol y swydd mae**:

- Bod yn atebol i'r Pennaeth Pêl-droed am reolaeth o ddydd i ddydd y rhaglen Pêl-droed Merched yn CAVC. Creu diwylliant sy'n annog safonau personol uchel ar y cae ac oddi arno, ac sy'n cyd-fynd ag amgylchedd sy'n perfformio'n dda.
- Gweithredu rhaglen cynllunio llwyddiant drwy recriwtio, cadw a throsglwyddo chwaraewyr i uwch dîm(au) y coleg.
- Cefnogi strategaeth chwarae a hyfforddi sy'n rhesymol â'r chwaraewyr ac sy'n cydnabod cryfderau a gwendidau'r tîm ac unigolion.
- Annog y defnydd o systemau dadansoddi i ddatblygu'r tîm ac unigolion.
- Rhoi cymorth i'r Pennaeth Pêl-droed gyda meini prawf ysgrifenedig ar gyfer dewis chwaraewyr, a ddylai fod yn seiliedig ar rinweddau personol a safle. Dylid dosbarthu'r meini prawf ymhlith chwaraewyr.
- Mynychu treialau a gemau eraill er mwyn dod o hyd i chwaraewyr talentog.
- Rheoli amserlen chwaraewyr, gan gynnwys y canlynol: - monitro cryfder a chyflyru, gwerthusiad anafiadau, amseroedd ymarfer, sicrhau bod systemau cyfathrebu'n eglur, sesiynau adfer, amseroedd cyfarfod a pharatoi ar gyfer gemau.
- Cefnogi'r Pennaeth Pêl-droed gydag arddull chwarae sy'n effeithiol ac sy'n manteisio ar gryfderau'r tîm/timau.
- Sicrhau bod chwaraewyr yn derbyn adborth priodol ar berfformiadau yn ystod yr amser hyfforddi, chwarae a chyfarfodydd adolygu un-i-un.
- Cynorthwyo gyda nosweithiau agored yn y Coleg, digwyddiadau cyfweld ar draws y coleg, digwyddiadau goruchwylio a chofrestru.
- Gweithio ar sail hyblyg, yn cynnwys gyda'r nosau ac ar benwythnosau ar unrhyw rai o safleoedd y Coleg, neu yn ystod gweithgareddau gyda dysgwyr.
- Byddai sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar Drwydded UEFA B (neu uwch) yn ogystal â bod â phrofiad blaenorol o weithio o fewn y diwydiant ar lefel lled broffesiynol neu uwch.

Ceir gwybodaeth bellach yn y swydd ddisgrifiad/Manyleb Person.

Dylid gwneud ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais ar-lein Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Ni dderbynnir ceisiadau CV.

**Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw 24/08/2023 yr 12:00pm.**

**Cynhelir cyfweliadau ddydd Iau 5 Medi 2023 ar Gampws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd.**

Mae'r holl swyddi gwag yn amodol ar wiriad manwl diweddar gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

More jobs from Cardiff and Vale College