Gweithiwr Cymdeithasol - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

2 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Mae ein gwasanaeth yn cynnig gofal iechyd meddwl eilaidd i oedolion sy'n byw gyda dementia a phobl sydd wedi cael diagnosis o salwch meddwl (dros 65 oed). Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Gwasanaeth Dementia Cynnar a thimau cymunedol Awdurdodau Lleol.

**Am Y Swydd**
Os ydych chi am ehangu neu ddatblygu eich dealltwriaeth o salwch meddwl tra'n cydweithio â chydweithwyr iechyd, edrychwch ddim pellach. Rydym am recriwtio Gweithiwr Cymdeithasol Gradd 7 i ymuno â ni yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn.

Ein hathroniaeth yw meithrin diwylliant lle mae gweithwyr yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a'u hannog i gyrraedd eu llawn botensial. Rydym yn dîm integredig, sydd wedi'i leoli yn uned Llanfair, Ysbyty Llandochau. Rydym yn cydweithio â nifer o weithwyr proffesiynol o awdurdodau lleol ac iechyd. Rydym yn darparu goruchwyliaeth reolaidd i staff ac yn cynnal cyfarfod wythnosol i drafod achosion cymhleth mewn maes amlddisgyblaethol.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Drwy ddarparu gofal a thriniaeth sy'n canolbwyntio ar adferiad, rydym yn annog cyflogeion i fabwysiadu dull gweithredu sy'n seiliedig ar gryfderau tra'n ymdrechu i gyflawni canlyniadau personol i unigolion. Mae ein tîm yn gweithio'n agos gyda dinasyddion, teuluoedd a gofalwyr i sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn byw'n dda yn eu cymunedau.

Os hoffech drafod y swydd hon, cysylltwch â:
Michelle Grmusa

Rheolwr Integredig Caerdydd a'r Fro

Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn



**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae'r swydd hon yn destun Gwiriadau Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i'r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy'n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy'n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a'r holl ysgolion

Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02018

More jobs from Cardiff Council