Trainee Journalist - Cardiff, United Kingdom - ITV Jobs

ITV Jobs
ITV Jobs
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

2 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Newyddiadurwr dan hyfforddiant**

**(Rhaglenni Cymraeg)**

**ITV Cymru Wales**

**2 x cytundeb 12 mis**

**Lleoliad : Caerdydd**

**Cyflog : £ ** **£26329**

**Mae eich gwaith yn bwysig**

Mae siapio diwylliant yn rhan o DNA ITV. Nid yw'n syndod y byddwch yn dod o hyd i ni ym mhob cartref yn y DU, mae ein cynyrchiadau yn enwog ledled y byd ac rydym ar flaen y gad yn y chwyldro ffrydio digidol.

**Gallwch gael dylanwad**

**Y tim**

Mae Newyddion ITV yn cynhyrchu cynnwys o ansawdd uchel y gellir ymddiried ynddo gan ddenu'r cynulleidfaoedd mwyaf erioed.

**Y rôl**

Eisiau swydd yn y cyfryngau?

Mwynhau siarad gyda phobl newydd a chlywed eu straeon?

Hoffi'r syniad o weithio rhywle lle mae bob diwrnod yn wahanol?

Os ydych chi - dyma'r swydd i chi.

Mae ITV Cymru, mewn partneriaeth gydag S4C, yn chwilio am bobl sydd eisiau gyrfa ym myd newyddiaduraeth i greu cynnwys cyffroes yn y Gymraeg. Does **dim **angen profiad o newyddiaduaeth / cyfryngau ar gyfer y swydd.

Bydd y cynllun hyfforddiant 12 mis yn eich galluogi i greu cynnwys newyddion a materion cyfoes ar Instagram, a Tiktok 'Hansh Dim Sbin' ac i wasanaeth newyddion digidol S4C.

O ddydd i ddydd byddwch yn ymateb i straeon yr wythnos gyda'r ffocws ar gyflwyno'r cynnwys i** gynulleidfaoedd ifanc. **Bydd cyfle i chi ddatblygu **syniadau gwreiddiol** eich hunain ar ystod eang o bynciau gwahanol.

Bydd cyfleoedd hefyd i gysgodi a gweithio ar amryw o raglenni materion cyfoes gan gynnwys 'Y Byd ar Bedwar' ac 'Y Byd yn ei Le'.

Mae angen dealltwriaeth wych o **blatfformau digidol **a sut i'w defnyddio i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a dylwch hefyd fod yn angerddol am **faterion cyfoes,** a** **chynnwys **amrywiaeth **o leisiau a straeon o gorneli o Gymru sydd weithiau yn cael **eu tan-gynrychioli.**

I ymgeisio, anfonwch **CV **a **fideo 2 funud **i ni yn ateb yr isod.

Ni fydd eich sgiliau cyflwyno yn cael asesiad ond yn hytrach, **cynnwys eich ateb.** Mae croeso i chi anfon eich ateb yn ysgrifenedig petai hynny yn well gennych. Gallwch recordio eich clip ar eich ffôn neu unrhyw declyn, a'i uwchlwytho i Youtube neu wefan arall (er mwyn cael linc bydd angen cyfrif Youtube neu arall arnoch). Cofiwch i labeli'r clip yn glir gyda'ch** enw chi.**

Hoffwn i chi ateb y ddau gwestiwn penodol yma
- Mae gen i ddiddordeb i fod yn newyddiadurwr dan hyfforddiant oherwydd
- Pa straeon sy'n eich diddori chi a sut y byddai'r straeon yn gweithio ar gyfer cynulleidfaoedd digidol?

Hoffwn i chi anfon y ddau ateb fel un clip ac ni ddylai'r atebion fod yn fwy na 60 eiliad yr un.

**Sgiliau allweddol**
- Greddf Newyddiadurol
- Meddyliwr Creadigol
- Dealltwriaeth wych o blatfformau a strategaethau digidol
- Angerddol dros gynyddu cynrychiolaeth a mynediad i gynnwys newyddion i gynulleidfaoedd ifanc.

**Gofynion eraill y rôl**

Diddordeb mewn newyddion a materion cyfoes.

Sgiliau cyfathrebu a ieithyddol cryf.

Profiad o waith tîm.

**Mae ITV i bawb.**

Mae ITV yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir ac yn annog ceisiadau am y rôl hon gan ymgeiswyr ag anabledd. Fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, os ydych yn bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer y rôl a'ch bod wedi datgan bod gennych anabledd, byddwn yn gwarantu y bydd eich cais cyfan yn cael ei ystyried (h.y. byddwch yn cyrraedd ail gam ein proses).

**Buddion gwych ITV**

Mae ITV yn cynnig buddion gwych yn cynnwys
- Gweithio hyblyg
- Gwyliau hael
- Diwrnodau gwirfoddoli a lles a chyfleuon eang i wireddu bywyd iach
- Cynllun arbed arian a chyfle i brynu cyfranddaliadau ITV
- Cyfleuon bonws
- Cyfraniadau pensiwn cystadleuol

Mwy am ein buddion fan hyn

**Dyddiad Cau: **

**Nodwch bod y cyfnod rhybudd i'r rôl yn 2 fis.**

**Trainee Journalist (Welsh Language Programmes)**

**ITV Cymru Wales**

**2x 12 month fixed term contracts**

**Office location: Cardiff**

**External Advert**:
**Hiring range: £21,**324** - **£2**6,329**

**Your work matters to millions.**

Shaping culture is in the DNA of ITV. So, it's not surprising that you'll find us in every home in the UK, our productions are famous all over the world and we're at the forefront of the digital streaming revolution.

When you join us, you enter a fun working environment. With opportunities to learn, to grow and make a real difference. Small enough that your impact's felt in the business, but big enough that your impact reaches millions of people.

Come develop your skills, change TV and the course of your career. Don't just watch it. Be part of it. Join ITV.

**Your impact sends ripples.**

**The team**

ITV News delivers high quality and trustworthy coverage attracting record audiences.

**The role**

Want a job in the media?

Enjoy talking to new people, getting to know their stories?

Like the sound of working somewhere where each day is different?

If you've said yes to any of the above - this job is for you.

ITV Cymru Wales, in partnership with S4C are looking for enthusiastic ind

More jobs from ITV Jobs