Cynghorydd Pod - Barry, United Kingdom - Vale of Glamorgan Council

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Amdanom ni**
Rydym yn rhan o Dîm Cyflogadwyedd sy'n ehangu sy'n rhan o Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau Cyngor Bro Morgannwg. Mae'r Cynghorydd Pod yn ddatblygiad newydd a chyffrous a ariennir gan Lywodraeth y DU.

Bydd y POD Cynghori'n siop un stop o wahanol wasanaethau lleol sy'n ceisio helpu preswylwyr/cwsmeriaid i gael mynediad at rai gwasanaethau cymorth sylfaenol (helpu i lenwi ffurflenni budd-dal, help gyda rheoli arian, sgiliau digidol, sefydliadau iechyd meddwl ac ati) i hybu ymgysylltiad ac i fagu hyder.

Bydd y rôl yn cynnwys rhywfaint o waith mewn lleoliadau allgymorth y byddwch yn eu cefnogi a pheth gwaith uniongyrchol gyda budd-daliadau, tai, dyled a sefydliadau iechyd meddwl. Bydd yn cysylltu pobl leol â chyfleoedd sgiliau, hyfforddiant, swyddi a gyrfaoedd. Y nod yn y tymor hwy yw helpu cwsmeriaid i ddatblygu sgiliau a chymhelliant i symud ymlaen i wasanaethau eraill gan gynnwys gwasanaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned a Chyflogadwyedd.

Bydd gofyn i ddeiliad y swydd adeiladu ar berthnasau a phartneriaethau cyffrous ym Mro Morgannwg i sicrhau bod gwasanaeth cymorth digonol ar gael i unigolion sy'n ymweld â'r POD Cynghori.

**Ynglŷn â'r rôl**

Manylion Cyflog: Gradd 5 SP8 - 12, £22,777 - £24,496
Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr yr wythnos
Prif Weithle: Y Pod Cynghori (lleoliad arfaethedig - y Barri)
Rheswm Dros Dro: 31 Mawrth 2025 (yn dilyn cyfnod prawf llwyddiannus).

**Disgrifiad: Cefnogi cyfranogwyr â chyngor o ansawdd uchel a chefnogaeth dechnegol a allai eu helpu i oresgyn rhwystrau rhag ymgysylltu. Boed hyn ar ffurf uwchsgilio, magu hyder neu gymorth llesiant cyffredinol. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd goladu a chynnal data i adrodd yn gywir pan fydd angen.**

**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:
Profiad o roi cymorth a/neu gyngor naill ai mewn gwasanaeth cyflogaeth neu mewn gwasanaeth cymorth tebyg.
Profiad o weithio gyda chyfranogwyr sy'n anodd eu cyrraedd ac sydd ag anghenion lluosog.
Profiad o weithio mewn amgylchedd partneriaeth amlasiantaethol.
Profiad o roi cymorth a chyngor priodol i grwpiau ac unigolion yn y gymuned.
Gwybodaeth am ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ynghylch amrywiaeth o fudd-daliadau, tai a gwasanaethau cymorth eraill
Profiad o ffurflenni hawlio budd-daliadau yn ogystal â ffurflenni eraill megis budd-daliadau anabledd a cheisiadau tai
Gwybodaeth a Phrofiad o ddefnyddio ystod eang o systemau cyfryngau digidol.
Cefnogi unigolion gyda sgiliau digidol a datblygu'r sgiliau hyn lle bo modd
Gallu cyfathrebu'n effeithiol gyda chyfranogwyr, staff a rhanddeiliaid yn Gymraeg a/neu'n Saesneg sy'n glir ac yn rhwydd ei ddeall, yn ysgrifenedig ac ar lafar
Sgiliau gofal cwsmeriaid amlwg.
Gallu gweithio'n rhan o dîm a meithrin a chynnal perthynas gefnogol ac effeithiol gyda chyfoedion a phartneriaid.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Oes angen gwiriad gan y GDG? Oes
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Mark Davies,

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person a atodir i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: LS00222

More jobs from Vale of Glamorgan Council