Cynorthwyydd Dysgu - Cardiff, United Kingdom - Oaklands College

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
College
- Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
- Location
- Ystum Taf, Cardiff
- Contract Type
- Fixed term contract
- Hours
- Full Time
- Contract Length
- Blwyddyn yn y lle cyntaf
- Salary
- Gradd 4 pro rata
- Posted
- 14th June 2023
- Start Date
- 1st September 2023
- Expires
- 26th July :59 AM
- Contract Type
- Fixed term contract
- Start Date
- 1st September 2023
- Job ID


Mae'r ysgol yn awyddus i benodi unigolion brwdfrydig i swyddi yn ein Canolfan Ddysgu Arbenigol, Canolfan Glantaf.

Mae'r Adran Gynnal Dysgu yn cynorthwyo nifer o ddisgyblion i sicrhau fod eu mynediad at addysg yn rhwydd ac yn llifo yn fwy hwylus gyda chymorth oedolyn ac arweiniad unigol. Mae rhai disgyblion â thrafferthion sgiliau sylfaenol, megis llythrennedd neu rifedd a disgyblion eraill angen cymorth corfforol neu emosiynol. Mae disgyblion sy'n derbyn cymorth o fewn yr adran yn gwerthfawrogi'r gynhaliaeth ac yn gwneud cynnydd da gydag arweiniad ac yn llwyddo i ymdopi a llwyddo gyda gofynion y cwricwlwm.

Wrth weithio o fewn Canolfan Glantaf, byddwch yn ymuno a thîm profiadol ac arbenigol sy'n gweithio yn gydlynus i gefnogi ein disgyblion sydd yn datblygu sgiliau sylfaenol mewn amgylchedd cartrefol o fewn cymuned Glantaf. Byddwch yn gwerthfawrogi gweithio'n agos gyda disgyblion hwyliog a chymdeithasol sydd yn gweithio ar lefelau is y cwricwlwm, ond sydd yn allblyg, brwdfrydig a chreadigol mewn cyd-destunau amrywiol.

Bydd disgwyl i'r ymgeiswyr llwyddiannus gael brwdfrydedd ac awydd clir i weithio gyda phlant a phobl ifanc er mwyn gwneud gwahaniaeth i'w datblygiad a'u cynnydd o fewn yr ysgol. Byddwn yn edrych am unigolion dynamig sydd yn gweithio yn dda fel rhan o dîm ac sydd â'r weledigaeth fod addysg yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywyd a chyfleoedd plant a phobl ifanc. Mae angen amynedd i weithio gyda phlant sy'n gallu teimlo'n rhwystredig o fewn ysgol a'r ddawn i argyhoeddi a chymell unigolion i roi o'u gorau ac i ddyfalbarhau er mwyn llwyddo.

Byddwn yn hapus iawn i ddarparu hyfforddiant a chynhaliaeth i berson sy'n chwilio am ddatblygu gyrfa ym myd addysg. Yn sicr, mae'r swydd a'r ysgol yn cynnig datblygiad gyrfa gyffrous ac unigryw.

Yn ogystal mae'r adran yn frwd iawn i roi profiadau i ddisgyblion o fywyd y tu hwnt i wersi ffurfiol drwy weithdai ac ymweliadau â lleoedd o ddiddordeb yn lleol ac i ymwneud â phrofiadau sy'n cyfoethogi eu profiad o fyd addysg ffurfiol. Edrychwn am unigolion fyddai'n frwd i gyfrannu yn llawn at fywyd allgyrsiol a chyfoethog yr ysgol.

Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon neu am sgwrs anffurfiol cysylltwch â'r Pennaeth, Mr Matthew Evans.

Proses Ymgeisio

Gellid ymgeisio am y swydd hon drwy ffurflen a llythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd â'r swydd. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd ynghyd â'r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd-destun cymuned yr ysgol.

Dyddiad Cau: Hanner dydd, Dydd Iau 29ain Mehefin 2023

Dyddiad dechrau'r swydd: 1af Medi 2023

More jobs from Oaklands College