Cyfarwyddwr Datblygu Sgiliau a Phartneriaeth - Swansea, United Kingdom - Gower College Swansea
Description
**Amdanom ni**:Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy'n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
**Y r**ô**l**:
Mae cyfle cyffrous wedi codi i arwain a datblgu sgiliau craidd holl ddysgwyr AB a DSW i hwyluso nod y coleg o gyflawni ardderchowgrwydd. Fel rhan o Dîm RHeoli'r Coleg bydd gofyn i chi oruchwylio'r bartneriaeth Ysgolion 14-19 ac agenda NEET yr ysgolion, gan gefnogi'r cwricwlwm a phrosiectau'r adrannau hyn.
- Amser llawn - 37 awr yr wythnos
- Parhaol
- Graddfa Rheoli - £57,960
**Cyfrifoldebau Allweddol**:
- Arwain, ysbrydoli a chymell staff i gefnogi dysgwyr a datblygu eu sgiliau a sicrhau canlyniadau rhagorol.
- Darparu arweinyddiaeth strategol a rheoli adrannau Sgiliau, Ysgolion a NEET yn effeithiol, gan gefnogi'r rheolwyr hyn i gynllunio cwricwlwm sy'n ymatebol a pherthnasol, wrth sicrhau'r arbedion effeithlonrwydd gorau posib.
- Hyrwyddo a datblygu sgiliau a chyfleoedd entrepreneuraidd i holl ddysgwyr y Coleg.
- Parhau i ddatblygu cyfleoedd cydweithio effeithiol gydag ysgolion lleol sy'n hybu recriwtio a chynnig cyfleoedd ychwanegol a phriodol i ddisgyblion lleol.
**Amdanoch chi**:
- Byddwch yn meddu ar radd a chymhwyster addysgu.
- Profiad o reoli'r broses o gynllunio a gweithredu cwricwlwm.
- Profiad o weithredu strategaethau gwelliant parhaus.
- Profiad o ddatblygu a rheoli prosiectau cydweithredol llwyddiannus.
- Meddu ar rinweddau arloesol a chreadigol ac angerdd am greu profiadau a chyfleoedd gwych i ddysgwyr.
**Buddion**:
- 37 diwrnod o wyliau blynyddol, a gwyliau banc, hefyd, mae'r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
- Parcio am ddim
- Mynediad i hyfforddwr ffitrwydd staff/maethegydd/dosbarthiadau ymarfer corff
- Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu'n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn ein sefydliad._
Os hoffech ymgymryd â'r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i'n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a'r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â'r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
More jobs from Gower College Swansea
-
Tiwtor/asesydd Busnes a Chyfrifeg
Swansea, United Kingdom - 1 week ago
-
Digital Trainer
Swansea, United Kingdom - 2 weeks ago
-
Artist in Residence
Swansea, United Kingdom - 2 weeks ago
-
Assistant Cook
Swansea, United Kingdom - 3 weeks ago
-
Gweinyddydd Ystadau a Chyfleusterau
Swansea, United Kingdom - 3 weeks ago
-
Project Administrator SPF
Swansea, United Kingdom - 3 weeks ago