Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwylio Maethu - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

2 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle wedi codi i Weithiwr Cymdeithasol profiadol yn Nhîm Gofal Maeth Gwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd.

**Manteision a gynigir**

Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig.
- Hawliad gwyliau blynyddol helaeth yn dechrau gyda 27 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 32 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod.
- Mae ein diwylliant gweithio yn hyblyg, gyda chynllun oriau hyblyg yn eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i chi.
- Mynediad i Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwgsy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel a hyblyg, dibynadwy, ar gyfer tawelwch meddwl.

Dyma ychydig o'r hyn sydd gan Gaerdydd i'w gynnig, edrychwch ar ein gwefan Gwaith Cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth am ein holl fanteision a chlywed gan rai o'n gweithwyr cymdeithasol, sy'n canu clod Caerdydd.

Hafan - Gwaith Cymdeithasol Caerdydd: Gwaith Cymdeithasol Caerdydd

**Am Y Swydd**
Rhaid i'r ymgeisydd addas ddangos ei fod yn bodloni'r gofynion ar gyfer Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwylio Maethu Gradd 8 fel y disgrifir yn y Disgrifiad Swydd a'r Fanyleb Person.

Byddwch yn gyfrifol am gefnogi a goruchwylio grŵp brwdfrydig o ofalwyr maeth, y bydd disgwyl i chi adeiladu a datblygu partneriaethau effeithiol gyda nhw, yn ogystal ag am asesu a recriwtio gofalwyr maeth newydd.

Fel Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol Gradd 8, byddwch yn gallu gosod safon arweinyddiaeth ar gyfer y gwasanaeth. Cymryd rhan lawn yn y gwaith o gyflawni blaenoriaethau'r gwasanaeth, dangos blaengaredd, cymryd cyfrifoldeb a bod yn atebol.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus hefyd allu dangos bod ganddo wybodaeth ragorol am waith sy'n ymwneud â Phlant sy'n Derbyn Gofal gan yr awdurdod Lleol

Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr a chanddynt radd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster cyfatebol, sydd â phrofiad o weithio fel gweithiwr cymdeithasol ym maes Gofal Cymdeithasol Plant ac sydd wedi'u cofrestru â Chyngor Gofal Cymru.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i'r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy'n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy'n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a'r holl ysgolion.

Mae'r swydd hon yn destun Gwiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Yn rhan o'r swydd hon, rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02476

More jobs from Cardiff Council