Gweithiwr Cymdeithasol - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

4 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir.

Ynglŷn â'r Gwasanaeth

Mae Tîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd yn rhan o'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion. Mae'r Tîm yn cydweithio â nifer o asiantaethau camddefnyddio sylweddau partner yn y Ddinas yn y sector statudol a'r trydydd sector.
- Mae'r tîm yn cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol a Gweithwyr Cymorth. Rydym yn cynnal asesiadau gydag unigolion sy'n camddefnyddio sylweddau: comisiynu pecynnau gofal a chymorth sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau a gwneud gwaith uniongyrchol gydag unigolion. Rydym yn ymrwymedig i Ymarfer Gwaith Cymdeithasol sy'n Seiliedig ar Gryfderau ac yn cydweithio ag unigolion i leihau camddefnydd niweidiol o sylweddau a'u helpu i wneud y mwyaf o'u hannibyniaeth a'u lles.

Mae'r tîm hefyd wedi ymrwymo i weithio drwy ddull Gwella Trawma gydag unigolion, a chewch gyfle i ddatblygu'r sgiliau hyn ochr yn ochr â'n hymarfer sy'n Seiliedig ar Gryfderau. Mae'r Tîm yn ymrwymedig i feithrin diwylliant lle mae gweithwyr yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a'u hannog i gyrraedd eu llawn botensial.

**Yr hyn y byddwn yn ei gynnig i chi**:

- Gwasanaeth sy'n gwerthfawrogi gweithwyr cymdeithasol proffesiynol ac sy'n cefnogi eu hymarfer.
- Dull sefydledig o ymdrin â gwaith cymdeithasol ar sail cryfderau gyda grwpiau mentor i annog trafodaeth a dysgu proffesiynol mewn sesiynau gwarchodedig.
- Cyfle i ddatblygu eich defnydd o ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau a mentora.
- Goruchwyliaeth reolaidd o ansawdd i gefnogi a chynnal ymarferwyr.
- Dull rhagweithiol o sicrhau ansawdd o fewn y gwasanaeth, gan geisio hyrwyddo'r ymarfer rhagorol a welwn gan ein gweithwyr cymdeithasol.
- Rhaglen hyfforddi eang a helaeth gyda chyfleoedd i hyfforddi mewn meysydd penodol a mynediad at ddiweddariadau cyfreithiol ac ymarfer rheolaidd.
- Mae ein systemau a'n technoleg yn galluogi ac yn hyrwyddo gweithio hybrid a hyblyg ac mae gan Gyngor Caerdydd amrywiaeth o bolisïau cefnogol i'w weithwyr.

**Am Y Swydd**
Swydd 30 awr yr wythnos yw hon a thros dro tan 31 Mawrth 2024.

Gwerthfawrogir ein Gweithwyr Cymdeithasol oherwydd y sgiliau a'r wybodaeth y maen nhw'n cyfrannu at y gwasanaeth**. **Maent yn allweddol i ddulliau gwaith cymdeithasol sy'n seiliedig ar gryfderau yng Nghaerdydd ac yn cefnogi'r defnydd o ddulliau Gwella Trawma gydag unigolion.

Mae'r rôl wedi'i lleoli yn Nhîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd, sy'n dîm gwaith cymdeithasol arbenigol sy'n gweithio gydag unigolion â phroblemau camddefnyddio sylweddau sydd ag anghenion gofal a chymorth. Fel Gweithiwr Cymdeithasol, byddwch yn cynnal asesiadau, yn llunio cynlluniau gofal a chymorth gydag unigolion yn nodi eu canlyniadau ac yn comisiynu gofal a chymorth. Bydd gofyn i chi hefyd reoli llwyth achosion prysur.

Fel Gweithiwr Cymdeithasol byddwch yn derbyn goruchwyliaeth reolaidd a phan fyddwch yn meddu ar gymwysterau priodol bydd disgwyl i chi oruchwylio cydweithwyr tîm heb gymwysterau. Byddwch yn cefnogi gweithrediad parhaus arferion sy'n seiliedig ar gryfderau ac yn cyfrannu at Sicrwydd Ansawdd yn y Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion.

Mae'r tîm yn rhoi cyngor a chymorth i dimau eraill ynghylch gweithio gyda'r rhai sy'n camddefnyddio sylweddau. Bydd disgwyl i chi ddatblygu eich gwybodaeth am y materion sy'n effeithio ar y rhai sy'n defnyddio sylweddau, opsiynau trin camddefnyddio sylweddau a llwybrau lleol. Byddwch hefyd yn cael eich cefnogi i ddefnyddio arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth gydag unigolion.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
- Profiad o weithio gydag oedolion a chynnal asesiad gyda'r unigolion hynny sydd angen gwasanaethau cymorth.
- Ymrwymiad i arfer rhagorol gydag unigolion, teuluoedd, Gofalwyr a Chymunedau.
- Sgiliau asesu a dealltwriaeth glir o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
- Hyder a gwybodaeth o ran gweithredu o fewn fframwaith cyfreithiol y Ddeddf Galluedd Meddyliol. Mae profiad o waith a phrosesau'r Llys Gwarchod yn fantais.
- Disgwylir i bawb sy'n gweithio yn y gwasanaeth ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles dinasyddion.
- Ymrwymiad i weithio'n agos gyda chydweithwyr mewn tîm gwaith cymdeithasol arbenigol sefydledig ac i weithio'n amlbroffesiynol gyda chydweithwyr mewn gwasanaethau statudol a gwasanaethau'r trydydd sector.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir.

Swydd 30 awr yr wythnos yw hon a thros dro tan 31 Mawrth 2024.
- Mae angen i chi fod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
- Mae'r swyddi hyn yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac yn addas ar gyfer rhannu swydd.

Mae diogelu oedolion ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i'r Cyngor, a'n nod yw cefnogi plant ac oedolion i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn, a byddant yn gweithredu i ddioge

More jobs from Cardiff Council