Tiwtor Mathemateg I Brentisiaid Iau - Cardiff, United Kingdom - Cardiff and Vale College

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Swydd Wag Fewnol / Allanol**

**Teitl y Swydd**:Tiwtor Mathemateg i Brentisiaid Iau**

**Contract: Contract Ffracsiynol o 0.6 - Tymor Penodol hyd at fis Gorffennaf 2024**

**Oriau: 22.2 awr yr wythnos**

**Cyflog: £22,905 - £45,079 y flwyddyn (Pro rata)**

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Tiwtor Saesneg i Brentisiaid Iau ar ein Campws Canol y Ddinas ar Heol Dumballs. Mae'r Rhaglen Prentisiaid Iau wedi'i hanelu at ddysgwyr cyfnod allweddol 4 sydd wedi ymddieithrio rhag dysgu prif ffrwd am resymau amrywiol. Mae ein dysgwyr yn dod o 22 Ysgol ar draws ardal Caerdydd a'r Fro ac yn astudio gyda ni am ddwy flynedd. Mae'r rhaglen yn seiliedig ar alwedigaeth, sy'n rhoi'r cyfle i ddysgwyr ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a chymwysterau ar gyfer eu llwybr dewisol. Rydym yn cynnig 5 llwybr fel rhan o'r rhaglen - Trin Gwallt a Harddwch, Arlwyo a Lletygarwch, Crefftau Amrywiol (Plymio, Adeiladu a Modurol), Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Chreadigrwydd Digidol

Yn benodol, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am:

- Addysgu TGAU Mathemateg i garfan o Brentisiaid Iau sy'n 14-16 oed, ym mlwyddyn 10 a blwyddyn 11. Cyfrifoldebau tiwtor cwrs o leiaf un grwp o Brentisiaid Iau.
- Ymgymryd â'r holl waith addysgegol megis paratoi gwersi, addysgu yn yr ystafell ddosbarth, gwaith tiwtorial a marcio.
- Cynnal asesiadau i fyfyrwyr er mwyn lleoli myfyrwyr, monitro cynnydd ac adnabod anghenion cymorth dysgu a threfniadau mynediad arholiad.
- Darparu cymorth priodol i fyfyrwyr er mwyn bodloni anghenion academaidd a llesiant dysgwyr a sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol wedi'i chofnodi ar y systemau Coleg priodol.
- Gwybodaeth ymarferol dda o gymwysterau TGAU Mathemateg a Rhifedd, yn unol â meini prawf CBAC ar gyfer cyflwyno i ddysgwyr blwyddyn 10 a blwyddyn 11.

Byddwch wedi'ch addysgu hyd at lefel gradd gyda chymhwyster addysgu cydnabyddedig. Bydd gennych hefyd wybodaeth am gymwysterau TGAU Mathemateg a Rhifedd. 3. Byddai gwybodaeth a phrofiad o addysgu Prentisiaid Iau mewn amgylchedd ystafell ddosbarth yn fanteisiol. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon, ond nid yw'n hanfodol.

Yn gyfnewid, rydym yn cynnig buddion gwych gan gynnwys cynllun pensiwn hael, mynediad at ostyngiadau amrywiol fanwerthwyr Ar-lein ac ar y Stryd Fawr drwy ein cynllun Porth Gwobrwyo, Cynllun Arian Parod a mynediad at lwybrau gyrfa cyffrous yn y coleg.

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae'r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a'r broses asesu yn y Gymraeg.

**Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau yw 17/08/2023 am 12:00pm.**

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

**Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.**

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun hyderus o ran anabledd.

More jobs from Cardiff and Vale College