Swyddog Cwynion Ac Ymgysylltu - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

3 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Yn sgil ehangu'r tîm, mae cyfle newydd cyffrous i ymuno â'r tîm Perfformiad a Pholisi o fewn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau. Mae'r Gwasanaethau Oedolion yn cefnogi dinasyddion ledled Caerdydd i fyw'n dda ac yn cynnig gwasanaethau gofal, cymorth a chyngor sy'n gweithio gyda thimau ar draws y gyfarwyddiaeth.

**Am Y Swydd**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn y Gwasanaethau Oedolion i ymgysylltu â staff ac aelodau o'r cyhoedd yn ogystal â gweithwyr proffesiynol y tu allan i'r Cyngor i gefnogi cwynion, datblygu cyfleoedd adborth a cynorthwyo'r Tîm Rheoli. Bydd rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus:

- Gwblhau ymatebion amserol i gwynion gan aelodau o'r cyhoedd, Cynghorwyr a'r Ombwdsmon, gan sicrhau bod gwybodaeth yn gywir ac yn adlewyrchu'r sefyllfa. Cefnogir hyn gan Reolwyr o bob rhan o'r gwasanaeth a bydd yn golygu casglu gwybodaeth o sawl ffynhonnell i'w hystyried.
- Gweithio gyda'r rheolwyr i ddatblygu arolygon staff a dinasyddion, coladu adroddiadau o'r ymatebion a rhoi adborth i'r rheolwyr yn seiliedig ar y canfyddiadau. Defnyddir y wybodaeth hon i adnabod cyfleoedd yn y dyfodol i ddatblygu gwasanaethau i'n dinasyddion.
- Gweithio ochr yn ochr â'r rheolwr Sicrhau Ansawdd i baratoi cyfarfodydd, cymryd cofnodion a chefnogi gwiriadau Sicrwydd Ansawdd y Gwasanaethau i Oedolion.
- Trefnu a chymryd cofnodion ar gyfer cyfarfodydd a allai fod o natur sensitif, gan weithio yn unol â'r polisi a'r canllawiau cyfrinachedd, gan gynnwys cyfarfodydd rheolaidd, cyfarfodydd dan arweiniad Adnoddau Dynol a chyfarfodydd gydag asiantaethau allanol ac aelodau o'r cyhoedd.

Cefnogi'r gwaith o ddatblygu adroddiadau chwarterol a blynyddol ar gyfer y Gwasanaethau i Oedolion.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Fel yr ymgeisydd llwyddiannus bydd angen i chi feddu ar ddealltwriaeth o ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i Wasanaethau Cymdeithasol a Rheoli Cwynion yng Nghymru. Bydd angen i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, gan gynnwys ysgrifennu adroddiadau ac ymateb, gwrando a sgiliau rhyngbersonol cryf. Bydd gennych hefyd sgiliau TG cryf ac yn gallu defnyddio pecynnau Microsoft lluosog yn hyderus gan gynnwys Outlook, Word ac Excel.

Bydd y rôl yn cynnwys delio ag aelodau o'r cyhoedd a byddai profiad o weithio gydag oedolion sy'n agored i niwed neu reoli cwynion yn ddymunol. Bydd hyn drwy e-bost, ar y ffôn ac ar adegau, wyneb yn wyneb. Byddwch yn rhoi sylw da i fanylion, yn gallu gweithio o fewn terfynau amser tynn; rheoli eich amser eich hun yn effeithiol a meddu ar ddealltwriaeth o brosesau cynllunio i lywio datblygiad a newid sefydliadol.

Byddwch yn cael eich cefnogi gan dîm profiadol o fewn y Gwasanaethau i Oedolion a fydd wrth law i roi cyngor a chymorth i chi i sicrhau bod eich rôl gyda ni yn llwyddiant.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae'r rôl yn amodol ar wiriad Datgelu a Gwahardd safonol. Mae'r swydd wag hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03144

More jobs from Cardiff Council