Cydlynydd Eiddo Gwag - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

2 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Nod Cyngor Caerdydd yw darparu gwasanaeth hygyrch o ansawdd uchel. Mae swydd wag ar gael ar hyn o bryd ar gyfer Cydlynydd Eiddo Gwag yn y Gwasanaethau Landlord o fewn Tai a Chymunedau.
**Am Y Swydd**
Cynnig gwasanaeth cynhwysfawr gyda phwyslais penodol ar

ddarparu gwasanaethau o fewn yr Uned Rheoli Eiddo Gwag, gan gynorthwyo â gweinyddu a

chydlynu achosion tra'n bodloni lefelau uchel o wasanaeth cwsmeriaid.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gennych brofiad o weithio o fewn amgylchedd yn gysylltiedig â gweinyddu a defnyddio technoleg newydd, hefyd safon dda o fewnbynnu data,

Profiad o weithio â chwsmeriaid, contractwyr a darparwyr allanol.

Bydd angen sgiliau cyfathrebu a gofal cwsmeriaid da arnoch a byddwch yn gallu delio ag unrhyw faterion mewn modd cadarnhaol ac adeiladol. Dylech hefyd feddu ar y gallu i weithio fel rhan o dîm a dilyn gweithdrefnau cymhleth.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae'r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Am sgwrs anffurfiol, ar ôl darllen y disgrifiad swydd a'r fanyleb person, cysylltwch â Rhiannon Phillips

Nodwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw ar Wneud Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd

Job Reference: PEO03611

More jobs from Cardiff Council