Prif Swyddog - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

3 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Mae'r Gyfarwyddiaeth Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd yn chwarae rhan bwysig yn rheoli twf cyflym Caerdydd ac yn ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Ar hyn o bryd rydym yn bwrw ymlaen ag ystod o brosiectau sydd â'r nod o weddnewid system drafnidiaeth Caerdydd, cynyddu teithio cynaliadwy, sicrhau aer glanach a gwella iechyd a lles trigolion Caerdydd.

**Am Y Swydd**
Mae'r swydd hon yn gyfle cyffrous i chwarae rhan weithredol yn y gwaith o ail-siapio'r ddinas a chyflawni agenda deithio gynaliadwy a llesol. Bydd hyn yn golygu gweithio ar gyflwyno amrywiaeth o brosiectau seilwaith trafnidiaeth gyda'r nod o wneud ffyrdd a strydoedd Caerdydd yn fwy diogel ac yn fwy ffafriol i bobl sy'n gwneud teithiau dyddiol ar droed, beiciau a thrafnidiaeth gyhoeddus yn lle teithio mewn car. Bydd y rhain yn cynnwys datblygu llwybrau cerdded a beicio ar Fap Rhwydwaith Teithio Llesol Caerdydd yn ogystal â chynlluniau i ail-ddylunio ffyrdd a strydoedd i helpu i fynd i'r afael â materion lleol o draffig a diogelwch ar y ffyrdd.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hollol ymrwymedig i deithio llesol a chynaliadwy. Drwy fod â chymhwyster, hyfforddiant perthnasol a/neu brofiad blaenorol cyfwerth, bydd yn gallu rheoli pob agwedd ar gyflawni cynlluniau seilwaith o'r cychwyn i'r diwedd prosiectau yn effeithiol mewn amgylchedd amlddisgyblaethol. Mae sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol a'r gallu i ymgysylltu a chydweithio'n effeithiol gyda chydweithwyr, Aelodau'r Cyngor a phartneriaid a rhanddeiliaid allanol yn rhan hanfodol o'r rôl hon.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae'r swydd yn addas i'w rhannu. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg.

I gael rhagor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Matthew Price, Arweinydd Tîm, Gweledigaeth, Polisi a Strategaeth Trafnidiaeth ar

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PLA00272

More jobs from Cardiff Council