Gweithiwr Gofal Plant - Barry, United Kingdom - Vale of Glamorgan Council

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Amdanom ni**
Mae Bro Morgannwg yn croesawu ceisiadau o fewn ei Rhaglen Dechrau'n Deg. Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael mewn ardaloedd penodol i gefnogi pob teulu i roi Dechrau'n Deg mewn bywyd i blant 0-3 oed Nod y rhaglen yw darparu gwasanaethau cymorth dwys i blant a'u teuluoedd.

Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar hyrwyddo iaith, sgiliau gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol, datblygiad corfforol ac adnabod anghenion sylweddol yn gynnar. Cyflawnir hyn trwy roi cymorth ac arweiniad o ran iechyd, cynnal grwpiau rhianta a rhoi cymorth ynghylch rhianta a gofal plant rhan amser am ddim

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion am gyflog: Gradd 4, PCG 5 - 7 £21,575- £22,369 y.f. pro rata

Oriau Gwaith: 18.5 awr

Patrwm Gweithio: Dydd Llun i Ddydd Gwener, Sesiynau y prynhawn yn unig yn ystod y tymor (39 wythnos)

Prif Waith: Y Barri

Rheswm dros gynnig swydd dros dro: yn unol a chyllid tan mis Mawrth 2025

**Disgrifiad**:
Bydd deiliad y swydd yn darparu gofal plant o'r safon orau ar gyfer plant rhwng 2 a 3 oed yn ardaloedd Penodol Dechrau'n Deg yn Y Barri

**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:

- Profiad o weithio gyda Babanod / plant ifanc a'u teuluoedd
- Profiad o gynllunio, trefnu a gweithredu gweithgareddau chwarae i blant ifanc
- Profiad o weithio mewn amgylchedd crèche / gofal plant
- Gwybodaeth o ofynion CIW ar gyfer Gofal Plant Rheoledig
- Gwybodaeth dda o sut i gefnogi datblygiad plant.
- Dealltwriaeth o'r system Gweithwyr Allweddol
- Cymhelliant a brwdfrydedd dros y swydd a dealltwriaeth o'r tasgau sy'n ofynnol.
- Agwedd hyblyg ac ymroddedig tuag at waith
- Yn sensitif i anghenion unigol plant a sut i gefnogi plant mewn lleoliadau
- CGC Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygu Plant, NNEB neu gymhwyster perthnasol cyfatebol ar gyfer Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
- Parodrwydd i gael eich goruchwylio a dealltwriaeth o bwysigrwydd goruchwyliaeth

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Angen Gwiriad DBS: Manwl Rhestr gwahardd plant a oedolion

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.

Job Reference: SS00590

More jobs from Vale of Glamorgan Council