Angen Gyrrwr Bws Mini o Fis Ionawr 2023 - Barry, United Kingdom - Vale of Glamorgan Council

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Amdanom ni**
Ysgol bentref fechan yw Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas, gydag ethos ac amgylchedd Gristnogol groesawgar. Mae'r plant yn mwynhau dysgu, ac maen nhw'n bositif, yn hwyliog ac yn ymddwyn yn dda. Ar hyn o bryd mae'r ysgol yn dechrau ar gyfnod newydd o ddatblygiad gydag Ysgol yr 21ain Ganrif sydd i fod i gael ei chwblhau yn Hydref 2023.

**Am y Rôl**
Cyfeirnod y swydd (i'w ddefnyddio ar y ffurflen gais): SNPS-MBM

Manylion am gyflog:
Oriau Gwaith / Wythnosau'r flwyddyn / Patrwm Gweithio: 10awr yr wythnos 8.20am i 8.50am a 3pm i 4.30 pm amser tymor yn unig
Prif Weithle: Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas

Disgrifiad:
Mae Pennaeth a Chorff Llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas am benodi gyrrwr bws mini ymroddedig a brwdfrydig i gludo disgyblion yn ddiogel i'r ysgol ac yn ôl ar ddechrau a diwedd diwrnod ysgol mewn modd proffesiynol a gofalgar. Byddwch yn ymgymryd â sawl llwybr o'r ysgol ac iddi ac o'r dalgylch estynedig - 1 llwybr (am) a 2 lwybr (pm) ar hyn o bryd. Mae amrywiol fannau codi / gollwng ar hyd pob llwybr. Mae hebryngwr bws gyda'r gyrrwr bob amser. Mae'r ysgol hefyd yn chwilio am ofalwr ac mae cyfle i gyfuno'r ddwy swydd. Os hoffech drafod unrhyw agwedd ar y swydd cyn gwneud cais, cysylltwch â'r ysgol.

**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:

- Trwydded yrru ddilys, lân gydag o leiaf 5 mlynedd o brofiad gyrru
- Deall yn llawn ofynion Rheolau'r Ffordd Fawr - gan gyfeirio'n benodol at yrru bws mini
- Y gallu i gynnal lefel ddiogel o ymddygiad tra bod disgyblion yn cael eu cludo
- Sgiliau cyfathrebu da a phersonoliaeth gyfeillgar
- Safon llythrennedd rhesymol
- Ymagwedd ymarferol synnwyr cyffredin

Oes angen gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd?: Manwl

**Sut i wneud cais**

Job Reference: SCH00450

More jobs from Vale of Glamorgan Council