Swyddog Atebion Tai - Barry, United Kingdom - Vale of Glamorgan Council

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Amdanom ni**
Y gwasanaeth atebion tai: Mae'r swydd hon wedi'i lleoli o fewn y tîm atebion tai, a'r Prif ddiben yw cyfrannu'n llawn at ddarparu'r holl wasanaethau mewn perthynas â gwasanaethau digartrefedd statudol, atal digartrefedd a chyngor ar dai.

**Ynglŷn â'r rôl**

Manylion cyflog: Gradd 5, PCG £22,777 - £24,496 y.f.

Oriau gwaith/patrwm gweithio: 37 awr yr wythnos - Dydd Llun i Ddydd Gwener

Prif le gwaith: Gweithio o gartref / y Swyddfa ddinesig, y Barri a lleoliadau eraill ym Mro Morgannwg yn ôl y gofyn i ymgymryd â'r swydd

Rôl barhaol

**Disgrifiad**:
Bydd gofyn i chi ddatblygu cynlluniau tai personol i helpu i gadw ymgeiswyr yn eu cartrefi presennol neu eu helpu i ddod o hyd i opsiynau eraill ar gyfer llety. Mae'r rôl yn cynnwys gwneud ymholiadau i sefydlu'r dyletswyddau tai sy'n ddyledus i gwsmeriaid. Bydd hyn yn golygu negodi gyda landlordiaid, gan helpu ymgeiswyr i ddod o hyd i ddewisiadau eraill o ran tai, nodi anghenion cymorth a rhoi mesurau ymarferol ar waith i ddod o hyd i atebion i gwsmeriaid sydd yn ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd.

**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:

- Profiad o weithio gyda phobl mewn amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y cwsmer
- Gweithio mewn amgylchedd dan bwysau
- Profiad o gadw cofnodion a systemau Swyddfa
- Profiad o weithio gyda chleientiaid bregus
- Gwybodaeth gadarn am Ddeddf Tai, deddfwriaeth digartrefedd a chyfraith landlordiaid a thenantiaid
- Gwybodaeth gadarn am yr agenda diwygio lles
- Y gallu i gyfathrebu'n glir ac yn effeithiol gydag ystod o ddefnyddwyr gwasanaeth
- Y gallu i aros yn ddigynnwrf o dan bwysau ac i ddelio â phobl a allai fod yn ddig ac yn rhwystredig mewn ffordd gydymdeimladol ond cadarn

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Ian Jones

Rheolydd Datrysiadau Tai, Gwasanaethau Tai

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.

Job Reference: EHS00434

More jobs from Vale of Glamorgan Council