Uwch Swyddog Llety â Chymorth X 2 - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

2 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd sy'n agored i niwed ac sydd ag anghenion tai.

Mae ein gwasanaethau ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn.

Rydym wedi ehangu'n gyflym yn ddiweddar ac mae ein gwasanaeth wedi gorfod gwneud newidiadau mawr, felly rydym yn recriwtio ar gyfer 2 swydd.

**Am Y Swydd**
Mae'r tîm Llety â Chymorth i deuluoedd wedi'i leoli mewn sawl ardal leol ledled y ddinas gyda datblygiadau pellach ar y gweill.

Mae'r rôl yn cynnwys rheoli portffolio'r Cyngor o lety â chymorth o ddydd i ddydd, gan ddarparu tai brys i gleientiaid sy'n ddigartref ac a gaiff eu hasesu fel rhai sydd ag angen â blaenoriaeth.

Mae'r gwasanaeth yn gweithredu 24/7 365 diwrnod y flwyddyn gan reoli aelodau staff mewn sawl lleoliad.

Gweithiwn mewn modd sy'n deall trawma ac mewn partneriaeth â chydweithwyr aml-asiantaeth sy'n darparu gweithgareddau dargyfeiriol.

Fel yr Uwch Swyddog Llety â Chymorth, cewch gyfle i ddatblygu ymarfer pobl eraill o fewn y tîm drwy gydweithio a goruchwylio. Byddwch hefyd yn gyfrifol am reoli perfformiad a datblygu tîm o Swyddogion Llety â Chymorth.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am unigolion dynamig a chreadigol a all feithrin perthnasoedd cadarnhaol.

Bydd gennych ymrwymiad cryf ac amlwg i ymagweddau sy'n seiliedig ar gryfder, ymroddiad i weithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau a diddordeb brwd yn eich datblygiad proffesiynol parhaus, gan ymdrechu am ragoriaeth.

Byddwch yn ymrwymedig i weithio mewn ffordd sy'n hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant i'n holl ddinasyddion.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae'r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y canlynol sy'n gallu cymeradwyo ceisiadau: y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig perthnasol, nad yw ar raddfa is na RhG2, neu, yn achos staff ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu.

Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Cynhelir y cyfweliadau ddydd Iau 21 Rhagfyr 202

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_ _._

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03534

More jobs from Cardiff Council