Gweithiwr Cymorth Ieuenctid Cynorthwyol - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

3 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae'n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy'n gweithredu ledled y ddinas. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae pob un ohonynt yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd a phrofiadau creadigol sy'n annog cyfranogiad a datblygiad pobl ifanc mewn cymunedau.

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn hyrwyddo cysylltiad cryf rhwng gwaith ieuenctid targedig a chynhwysol sy'n sicrhau y cynigir cymorth cyson i bobl ifanc pan fo angen hynny arnynt. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn annog pobl ifanc i wireddu eu potensial unigol ac yn eu cefnogi ar eu siwrne i ddod yn ddinasyddion gweithredol cadarnhaol.

**Am Y Swydd**
Mae cyfle cyffrous ar gael yn y Gwasanaeth Ieuenctid ar gyfer Gweithiwr Cymorth Ieuenctid Cynorthwyol. Mae'r swydd hon wedi'i lleoli yng Nghanolfan Ieuenctid Gogledd Trelái.

Byddwch yn rhan o dîm deinamig a brwdfrydig sy'n gweithio â phobl ifanc ag anghenion cymhleth yn yr ardal. Nod eich rôl fydd cefnogi'r gweithiwr cymorth ieuenctid i gyflwyno projectau a rhaglenni o safon uchel i bobl ifanc rhwng 10-19 oed.

Mae profiad o weithio gyda phobl ifanc yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Mae ffocws ar arferion sy'n canolbwyntio ar gryfderau ac yn rhoi'r person ifanc yn gyntaf hefyd yn hanfodol. Mae'r tîm yn ymrwymedig i ddull therapi sy'n canolbwyntio ar ddatrysiad byr ac mae hyn wedi'i adlewyrchu mewn gwaith cynllunio, darparu a gwerthuso yn ogystal ag yn y model goruchwylio a chymorth.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am weithwyr ieuenctid brwdfrydig a deinamig a fydd yn annog creadigrwydd ac arloesedd i ysbrydoli a chymell pobl ifanc trwy waith ieuenctid mynediad agored uniongyrchol.

Rydym yn chwilio am weithwyr ieuenctid sydd ag agweddau cadarnhaol a gwydnwch i allu cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc ac annog cynnydd.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus naill ai wedi cymhwyso i lefel 3 gweithiwr cymorth ieuenctid o leiaf neu'n gweithio tuag at yr hyfforddiant hwn neu'n barod i wneud hynny o fewn cyfnod o amser y cytunwyd arno.

Rydym yn chwilio am weithwyr ieuenctid sydd â phrofiad o asesu anghenion pobl ifanc ac ymateb yn briodol drwy weithgarwch, cefnogaeth ac arweiniad gwaith ieuenctid.

Rydym yn chwilio am unigolion rhagweithiol sydd â diddordeb amlwg mewn gweithio i gefnogi pobl ifanc i ddatblygu a ffynnu fel unigolion a chyfrannu'n gadarnhaol at eu cymuned.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Cyflog: £21,900 y flwyddyn PRO RATA (T00 Lefel 6)

Mae hon yn swydd ran amser a bydd deiliad y swydd yn gweithio 9 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig. Fodd bynnag, mae'r cyflog a ddangosir ar gyfer 37 awr yr wythnos, felly caiff ei roi ar sail pro-rata yn unol â hyn.

Mae'r swyddi yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i'r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy'n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy'n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a'r holl ysgolion.

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd ar secondiad gael caniatâd cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y canlynol sy'n gallu cymeradwyo ceisiadau: y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog neu Uwch Swyddog Enwebedig perthnasol, nad yw ar raddfa is na RhG2, neu, yn achos staff ysgol, y Pennaeth/Corff Llywodraethu.

Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Felly, er nad yw'n ofyniad ar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion nad ydynt yn cael eu cynrychioli'n ddigonol, gan gynnwys y rheini:

- dan 25 oed
- nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant;
- o'n cymunedau lleol gan gynnwys yn benodol unigolion anabl, gofalwyr a phobl o gymuned pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a chymuned LGBT+ Caerdydd
- sy'n gallu cyfathrebu'n rhugl drwy gyfrwng y Gymraeg.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

**Oherwydd ein trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio drwy'r post. Ni allwn ychwaith dderbyn ffurflenni cais drwy'r post.**

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodae

More jobs from Cardiff Council