Swyddog Prosiect - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

3 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Mae Gwasanaeth Cyfleusterau i'r Anabl yn darparu dros 3000 o addasiadau bob blwyddyn i drigolion anabl, oedrannus a bregus yng Nghaerdydd.

Darperir addasiadau drwy gyfuniad o grantiau a benthyciadau.

Mae'r Gwasanaeth hefyd yn darparu benthyciadau gwella eiddo domestig a grantiau ledled y Ddinas.

**Am Y Swydd**
Mae'r Gwasanaeth Cyfleusterau i Bobl Anabl am benodi gweithiwr adeiladu proffesiynol fel aelod o'r tîm sy'n frwdfrydig ac sy'n gallu ysgogi ei hun i gynorthwyo i wneud addasiadau mewn eiddo domestig.
- Gallai'r gwaith hefyd gynnwys;
- Atgyweirio ac ailosod addasiadau ac offer arbenigol sydd wedi'u gosod ar gyfer pobl anabl.
- Asesu unigolion a/neu eu gofalwyr yn eu cartref, ar lefel isel, syml.
- Gwaith trwsio/adnewyddu a chynlluniau adeiladu cyffredinol.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynnal arolygon eiddo, yn cwblhau darluniadau ymarferol, yn paratoi amserlenni gwaith ac yn rheoli prosiectau adeiladu o'r dechrau i'r diwedd; bydd hefyd yn cysylltu â therapyddion galwedigaethol, contractwyr, gosodwyr arbenigol, cyrff rheoleiddio a rhanddeiliaid eraill i gynnig gwasanaeth o safon uchel i'n cleientiaid.

Bydd gennych brofiad perthnasol o arolygu, adeiladu, atgyweirio/cynnal a chadw eiddo domestig. Fel aelod o'r tîm byddwch yn cynghori defnyddwyr gwasanaeth, cymryd cyfrifoldeb am eich baich gwaith eich hun a deall pwysigrwydd gwaith tîm. Bydd angen i chi fonitro perfformiad contractwyr adeiladu.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol/bydd yr ymgeisydd delfrydol yn astudio am gymhwyster cydnabyddedig mewn adeiladu (ONC o leiaf) a chymhwyster ffurfiol mewn cwblhau asesiadau swyddogaethol lefel isel i oedolion ag anableddau parhaol neu sylweddol a'u gofalwyr yn eu cartrefi eu hunain (Aseswr y Gellir Ymddiried Ynddo lefel 2, o leiaf) NEU bydd yn gallu arddangos profiad helaeth yn y ddwy ddisgyblaeth hon.

Byddwch hefyd yn gallu arddangos y lefelau uchaf o onestrwydd a hyblygrwydd personol. Fel cyfathrebwr da dylai fod gennych y gallu i ddatrys problemau neu faterion anodd a gallu addasu'n hawdd i newid.

Rhaid i chi feddu ar drwydded yrru lawn.

Mae'r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02778

More jobs from Cardiff Council