Uwch Beiriannydd - Pontypridd, United Kingdom - Rhondda Cynon Taf
Description
-Math o SwyddTraffig, Priffyrdd a Diogelwch ar y Ffyrdd
Cyfadran
Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen
Adran
Priffyrdd a Gofal y Strydoedd
Gradd
Gradd 11
Cyflog Penodol
£38,296
Math o Gytundeb
Amser Llawn Parhaol
Testun yr Hysbyseb
Rydyn ni'n chwilio am Uwch Beiriannydd i ymuno â'r Garfan Strwythurau yn rhan o Adran Rheoli Asedau Isadeiledd Uwchadran y Priffyrdd a Gwasanaethau Gofal y Strydoedd.
Bydd deiliad y swydd yn elwa o:
- Rhaglen hyfforddi a mentora gyda'r nod o gynnal datblygiad parhaus y garfan.
- Ymuno â charfan strwythurau ddeinamig a phrofiadol.
- Gweithio ar amrywiaeth o fathau o strwythurau sy'n cyflawni ystod o dasgau peirianneg, o waith asesu a dylunio i baratoi dogfennau contractau, a chadw golwg ar agweddau masnachol prosiectau.
- Cyfleoedd sylweddol i wella'i wybodaeth a chymryd perchnogaeth o brosiectau o fewn strwythur carfan gefnogol.
- Dysgu am weithdrefnau a gofynion awdurdodau lleol.
Am ragor o wybodaeth am y swydd, ffoniwch Laurence Sutton, Arweinydd y Garfan Strwythurau Priffyrdd ar
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn ac sy'n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Oriau gwaith
37
Lleoliad Gwaith
Sardis House
Sardis Road
Pontypridd
Lleoliad Gwaith
CF37 1DU
Dyddiad Cyfweliad Arfaethedig Dyddiad Cyfweliad Arfaethedig - ~~DAY~~ Dyddiad Cyfweliad Arfaethedig - mis Dyddiad Cyfweliad Arfaethedig - blwyddyn
28 Ebrill 2023
More jobs from Rhondda Cynon Taf
-
Technegydd Cerbydau
Pontypridd, United Kingdom - 1 day ago
-
Ymarferydd Gofal Plant Preswyl Dros Nos
Aberdare, United Kingdom - 3 weeks ago
-
Senior Finance Assistant
Porth, United Kingdom - 3 weeks ago
-
Practice Learning Facilitator
Aberdare, United Kingdom - 4 days ago
-
Pensions Officer
Porth, United Kingdom - 5 days ago
-
Warden Ymwybyddiaeth a Gorfodi
Pontypridd, United Kingdom - 1 day ago