Uwch Seicolegydd Addysg - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

2 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Mae Gwasanaethau Rhianta a Chwarae Caerdydd yn cael eu harwain yn strategol gan Uwch Seicolegydd Addysg.

Mae Rhieni a Mwy yn wasanaeth rhianta a arweinir gan seicoleg o fewn Rhianta Caerdydd. Mae'n cael ei gydnabod gan y Sefydliad Rhieni a Babanod fel tîm Perthynas Rhieni-Babanod Arbenigol. Mae'r tîm yn gweithio gyda rhieni sy'n feichiog neu sydd â baban neu blentyn yn y blynyddoedd cynnar.

Mae gennym ganolfannau swyddfa ar draws Caerdydd, ac mae gennym hefyd offer ar gyfer gweithio o bell.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am ein Gwasanaethau Rhianta ar-lein:
Rhianta Caerdydd Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd: Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd )

Rydym hefyd yn postio ar ein tudalennau Twitter a Facebook - chwiliwch am Cardiff Parenting - Rhianta Caerdydd i gael gwybod mwy.

Ar ôl gweithio gyda ni, mae rhieni wedi dweud:
"Rydyn ni'n cysylltu ac yn cael hwyl gyda'n gilydd ac mae ein bond yn gryfach nag erioed.
**Am Y Swydd**
Fel Arweinydd Clinigol a Rheolwr y gwasanaeth, bydd angen i'r Uwch Seicolegydd Addysg:

- Rheoli ac arwain gwasanaeth rhianta sy'n seiliedig ar seicoleg blynyddoedd cynnar i rieni babanod, plant bach a phlant y blynyddoedd cynnar ledled Caerdydd.
- Hyfforddi staff, a goruchwylio, monitro a gwerthuso ymyriadau'r tîm Rhieni a Mwy gan ddefnyddio dulliau a damcaniaethau seicolegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
- Cyfrannu at ddarparu ar sail tystiolaeth, drwy ymchwil a hyfforddiant Cymorth Cynnar
- Cyfrannu at wella canlyniadau i fabanod a phlant blynyddoedd cynnar drwy hyrwyddo hyder a'r gallu sydd gan rieni i effeithio ar ddatblygiad cynnar, lles, ac iechyd emosiynol a meddyliol eu plentyn
- Cyfrannu at ddatblygu, gweithredu ac adolygu polisïau a gweithdrefnau rhianta a gwaith amlasiantaethol lleol a chenedlaethol, gan adlewyrchu'r rhain yn y gwasanaethau a gynigir drwy Cymorth Cynnar.

**Cyflog: B4 - B7 + cyfle i ennill hyd at 3 SPA (£58,348 - £62,540 (hyd at £66,425))**
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am seicolegydd addysg cymwys sydd wedi'i gofrestru gyda'r CPIG, sy'n bodloni'r canlynol:

- Gwybodaeth fanwl o theori seicolegol a phrofiad o ddefnyddio theori mewn gwaith achos
- Portffolio o ddatblygiad proffesiynol parhaus diweddar a pherthnasol
- Profiad arwain a rheoli
- Profiad o weithio'n uniongyrchol gyda rhieni

**Gwybodaeth Ychwanegol** Cyflog: B4 - B7 + cyfle i ennill hyd at 3 SPA (£58,348 - £62,540 (hyd at £66,425))**

Mae'r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae'r swydd yn amodol ar gyllid Llywodraeth Cymru.

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_ _._

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03998

More jobs from Cardiff Council