Gweithiwr Cefnogol Pobl Ifanc - Caernarfon, United Kingdom - GISDA

GISDA
GISDA
Verified Company
Caernarfon, United Kingdom

1 week ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**PRIF BWRPAS Y SWYDD**

Cefnogi pobl ifanc, yn cynnwys rhieni ifanc, sydd yn agored i niwed i fyw yn annibynnol.

Cynnig cefnogaeth person-ganolig i bobl ifanc bregus i'w cynorthwyo i gadw tenantiaeth, dysgu sgiliau byw yn annibynnol, datblygu iechyd a lles ac adeiladu gwydnwch.

**CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL**

I weithio o fewn fframwaith PIE, yn unol a model therapiwtig GISDA.

Staff i gael dealltwriaeth o drawma, ymlyniad a anhwylder personoliaeth.

I adeiladu perthynas gref, iach a chyfeillgar gyda pobl ifanc gan roi y cyfle iddynt ymgysylltu a mynegi ei hunain mewn awyrgylch ffurfiol ac anffurfiol.

I greu awyrgylch di sefydliad, saff a chroesawgar sydd yn rhoi y cyfle i bobl ifanc drafod a mynegi ei teimladau /pryderon.

I hyrwyddo ac annog pobl ifanc i ofalu am lles ei hunain a bod yn fwy annibynnol.

I annog, ysgogi a credu mewn pobl ifanc.

Cyfrannu tuag at gwblhau cynlluniau cefnogaeth person ifanc.

Trefnu a chynnal gweithgareddau gyda pobl ifanc yn unol â'r cynllun cefnogaeth e.e. sesiynnau coginio, beicio, adeiladu hyder, mynd am dro.

Cefnogi pobl ifanc i gadw eu llety yn drefnus yn unol â'r safonau disgwyliedig.

Cefnogi pobl ifanc i gadw at delerau eu tenantiaeth.

Cefnogi pobl ifanc i gyllido yn effeithiol.

Cefnogi pobl ifanc i fewn i waith, hyfforddiant neu addysg.

Cefnogi pobl ifanc i wneud defnydd o'r Gwasanaethau Iechyd a Lles.

Cefnogi pobl ifanc i achredu eu sgiliau cadw tenatiaeth, cyllido a choginio.

Cefnogi pobl ifanc i symud ymlaen i lety parhaol.

Sicrhau bod cofnodion effeithiol yn cael eu cadw o bob cyswllt gyda'r defnyddwyr gwasanaeth.

Tracio cynnydd y bobl ifanc wedi iddynt adael y gwasanaeth.

Cyfrannu tuag at redeg a chynnal y llety sydd ar gael i bobl ifanc y prosiect.

Cefnogi Gweithwyr Allweddol i ddatblygu'r gwasanaeth yn unol âg anghenion pobl ifanc.

Darparu cefnogaeth cysgu mewn ar rota yr hosteli.

Darparu cefnogaeth ar alwad i'r Cwmni

**DYLETSWYDDAU ERAILL**

Cynnal, cadw a datblygu systemau recordio clir a chywir.

Bod yn gyfrifol, ar y cyd â gweithwyr eraill y prosiect, am fonitro ac adolygu holl weithgaredd y prosiect.

Sicrhau fod yr holl wybodaeth ystadegol a monitro yn cael ei fewnbynnu i'r cyfrifiadur yn rheolaidd.

Annog pobl ifanc i gymryd rhan weithredol yn natblygiad y gwasanaeth a'r gyfundrefn.

Cydweithio gyda holl staff y cwmni i hybu cyfuno gwasanaeth y cynllun a'r gwasanaethau eraill a gynnigir gan GISDA.

Cynrychioli GISDA mewn cyfarfodydd allanol ar gais Rheolwr y Prosiect.

Hyrwyddo gwasanaethau GISDA.

Darparu adroddiadau ysgrifenedig ar gyfer cynulleidfaoedd mewnol ac allanol ar gais Rheolwr y Prosiect.

Datblygu partneriaethau gydag asiantaethau eraill er mwyn datblygu'r gwasanaeth i gefnogi pobl ifanc a'u teuluoedd.

Sicrhau fod y defnyddwyr gwasanaeth yn derbyn gwasanaeth gorau bosib.

**CYFRIFOLDEBAU CYFFREDINOL**

Cyfrannu tuag at hyfforddiant a datblygiad personol eich hun.

Hyrwyddo agwedd gyfeillgar, anfarnol, gwrth-wahaniaethol ym mhob agwedd o'r gwaith tuag at ddefnyddwyr gwasanaeth, cyd-weithwyr, aelodau o'r Bwrdd Rheoli ac aelodau o'r cyhoedd / asiantaethau eraill.

Hyrwyddo gwerthoedd a diwylliant mewnol y Cwmni.

Hyrwyddo nod ac amcanion y Cwmni.

Ymgymryd ag unrhyw dasgau rhesymol yn ôl yr angen.

Ymlynu at holl bolisïau a gweithdrefnau cyfredol y Cwmni.

Cyfrannu at sesiynau arolygaeth.

Cadw holl wybodaeth sy'n berthnasol i'r Cwmni, y staff a defnyddwyr gwasanaeth y Cwmni yn gyfrinachol.

Gweithio yn unol a Cod Ymarfer Cyngor Gofal Cymru.

Ymgymryd ag unrhyw dasgau rhesymol yn ôl yr angen.

MAIN PURPOSE OF THE ROLE:
To support vulnerable young people, including young parents, to live independently. To offer person-centred support to help vulnerable young people to maintain a tenancy, gain independent living skills, develop positive health and well-being and build resilience

KEY RESPONSIBILITIES

To work within the PIE framework, in accordance with the GISDA therapeutic model.

Staff to gain an understanding of trauma, attachment and personality disorder.

To build a strong, healthy and friendly relationship with young people giving them the opportunity to engage and express themselves in a formal and informal atmosphere.

To create a non-institutional, safe and welcoming atmosphere that gives young people the opportunity to discuss and express their feelings/concerns.

To promote and encourage young people to look after their own well-being and be more independent.

To encourage, motivate and believe in young people.

Contribute towards the completion of a young person's support plans.

Organize and carry out activities with young people in accordance with the support plan e.g. cooking sessions, cycling, building confidence, going for a walk.

Supporting young people to keep their accommodation organized in accordance with the expected standards.

Supporting young people to adhere to the terms of their tenancy.

Supporting young people to finance effectively.

Supporting young people

More jobs from GISDA