Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu Arbenigol - Barry, United Kingdom - Vale of Glamorgan Council

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Amdanom ni**

Rydym yn dîm bach o Gynorthwywyr Cymorth Dysgu arbenigol sy'n gweithio gyda phlant â nam ar eu golwg ar draws ysgolion yng Nghyngor Bro Morgannwg.

Byddwch yn gweithio 1:1 gyda'r disgyblion i sicrhau eu bod yn cael mynediad i'r cwricwlwm trwy adnoddau cyffyrddol, cymorth gydag anghenion Symudedd, yn ogystal â bywyd ehangach yr ysgol. Gall hyn gynnwys y rhai sydd angen gwybodaeth fanwl ac arbenigol mewn meysydd penodol.

Bydd disgwyl i chi weithio o dan arweiniad Athrawon Cymwysedig Disgyblion â Nam ar eu Golwg (QTVI), Swyddog Sefydlu ac Arweinydd y Tîm Nam ar y Golwg.

Bydd disgwyl i chi hefyd weithio o dan arweiniad a gyda'r Cydlynydd ADY, Athro Dosbarth / Pwnc ac aelodau o dîm arwain yr ysgol i gefnogi ystod o ddisgyblion gyda Nam ar y Golwg i fanteisio ar ddysgu a bywyd ehangach yr ysgol.

Byddwch yn cyfrannu at gylch cynllunio'r athrawon gyda'r QTVI, y Swyddog Sefydlu ac athrawon dosbarth / pwnc i sicrhau bod disgyblion â nam ar y golwg yn cael mynediad cyfartal i ddysgu.

**Ynglŷn â'r rôl**

Manylion cyflog: Lefel 4, Gradd 6, PCG 14-19, £25,409- £27,852 pro rata + Lwfans Ysgol Arbennig (£1401)

Diwrnodau / Oriau'r wythnos: 30 awr - 5 diwrnod

Swydd dros dro tan fis Medi 2024, gyda'r posibilrwydd o flwyddyn arall yn dibynnu ar gyllid.

**Disgrifiad**:
Darparu cymorth i ddisgyblion â nam ar eu golwg ar draws pob ysgol ym Mro Morgannwg. Sicrhau bod ganddynt fynediad i'r cwricwlwm a gweithredu fel cynorthwyydd ymarferol yn ystod gwersi yn ôl y gofyn. Bydd angen i chi hefyd roi cymorth i'r holl athrawon ac arbenigwyr dan sylw.

**Amdanat ti**

Bydd angen y canlynol arnoch:

- Profiad blaenorol a diweddar o weithio gyda phlant mewn lleoliad blynyddoedd cynnar, â phlant â Nam ar y Golwg os yn bosib.
- Sgiliau TG rhagorol, ynghyd â phrofiad o weithio gyda gwahanol raglenni meddalwedd.
- Profiad o weithio gyda phlant â nam ar eu golwg yn unigol ac mewn grwpiau.
- Profiad o weithio gydag athrawon arbenigol, gan roi adborth a gwerthusiadau.
- Profiad o gynllunio / addasu gweithgareddau byr i ddisgyblion.
- Cynnal perthnasau disgybl / athro rhagorol.
- Profiad o fonitro ac asesu cynnydd disgyblion.
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog.
- Sgiliau datrys problemau ardderchog.
- Ymagwedd hyblyg at weithio.
- Cymhwyster Braille

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Oes angen gwiriad gan y GDG: Manwl

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Annabelle Hallihan - Arweinydd Tîm y Gwasanaeth Nam ar y Golwg

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person a atodir i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: LS00242

More jobs from Vale of Glamorgan Council