Cyfreithiwr Ymgyfreitha - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

3 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Caerdydd yw un o'r dinasoedd mwyaf medrus ac sy'n tyfu gyflymaf ym Mhrydain gyda Gwasanaeth Cyfreithiol mewnol ag achrediad Lexcel. Mae gennym gyfle gwych i ymarferydd cyfreithiol diwyd, hyblyg a llawn cymhelliant ymuno â Gwasanaeth Cyfreithiol Cyngor Caerdydd yn Neuadd y Sir yng nghanol Bae Caerdydd gyda chysylltiadau trafnidiaeth a chyfleusterau parcio da.

Mae gennym gyfreithwyr arbenigol sy'n ymgymryd â gwaith caffael, ymgyfreitha, eiddo, cynllunio, llywodraethiant, gwaith gofal plant a gwasanaethau cymdeithasol oedolion, a'n nod yw darparu gwasanaeth rhagorol a chynhwysol i'n cleientiaid.

Mae'r gwasanaeth erbyn hyn yn dilyn model gweithio hybrid sy'n galluogi gweithwyr i weithio'n hyblyg o'u cartrefi neu mewn swyddfa, yn dibynnu ar ofynion y gwasanaeth. Mae gennym system rheoli achosion modern, llyfrgell gyfreithiol ar-lein a thîm cymorth busnes bach.
**Am Y Swydd**
Mae cyfle wedi codi ar gyfer Cyfreithiwr Ymgyfreitha ac rydym yn chwilio am ymgeisydd â phrofiad perthnasol i ymuno â Thîm Ymgyfreitha'r Cyngor. Mae'r tîm brwdfrydig a hynod broffesiynol hwn yn chwilio am unigolyn sydd â phrofiad a diddordeb yng ngwaith tîm ymgyfreitha Llywodraeth Leol.

Bydd deiliad y swydd yn delio ag erlyniadau rheoleiddiol troseddol, fel safonau masnach, diogelwch amgylcheddol, iechyd a diogelwch ac ati, ond bydd hefyd yn cynnwys y gallu i ymwneud â meysydd gwaith eraill sy'n gysylltiedig ag ymgyfreitha, yn amodol ar brofiad yr ymgeisydd, diddordebau gyrfa, a chapasiti llwyth gwaith - gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gyfraith addysg (gan gynnwys Apeliadau Derbyniadau Addysg) ac ymgyfreitha sifil cyffredinol.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod wedi'i dderbyn fel cyfreithiwr neu ei alw i'r bar a rhaid iddo allu gweithio'n rhan o dîm.

Disgwyliwn i'r unigolyn a benodir gymryd cyfrifoldeb personol am sicrhau rhagoriaeth, gweithio gydag eraill i gyflawni'r canlyniadau gorau posib, ymateb yn gadarnhaol i newid a chyfleoedd newydd er mwyn manteisio i'r eithaf ar yr adnoddau sydd ar gael a meddwl a gweithredu gyda golwg ar hyrwyddo buddiannau'r Cyngor.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae gennym system fodern i reoli achosion, llyfrgell gyfreithiol ar-lein a thîm cymorth busnes bach.

Er bod y rôl yn heriol, mae ein polisïau gwaith hyblyg yn sicrhau cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. Mae polisi Amser Hyblyg y Cyngor yn berthnasol i'r swydd ac mae patrymau gweithio hyblyg ar gael, yn amodol ar ddiwallu anghenion ein cleientiaid ac ystyried trefniadau gwaith aelodau'r tîm presennol. Byddai angen i'r ymgeisydd llwyddiannus allu teithio ar fyr rybudd yn unol â gofynion y swydd hon.

Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu ar yr amod bod gweithiwr / ymgeisydd cymwys arall sydd â phrofiad addas yn dymuno ei rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_._

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: RES01217

More jobs from Cardiff Council