Swyddog Strategaeth Tai - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

2 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â'n tîm deinamig. Yn gweithio yn y Tîm Datblygu a Gwella Gwasanaeth yn yr adran Tai a Chymunedau, mae'r Swyddog Strategaeth Tai (Polisi) yn gyfrifol am ddatblygu, gweithredu a monitro Polisïau a Strategaethau Tai a Chynlluniau Gweithredu cysylltiedig

**Am Y Swydd**
Byddwch yn cymryd rôl arweiniol wrth ddarparu newid a datblygiad i'r Adran Tai, gan gynnwys hyfforddi a datblygu staff.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn meddu ar wybodaeth fanwl am ddeddfwriaeth a gweithdrefnau tai presennol, a byddant yn gallu addasu a dysgu'n gyflym i ddilyn gweithdrefnau cymhleth. Mae sgiliau cyfathrebu, ysgrifenedig a sefydliadol ardderchog yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig perthnasol ar radd nad yw'n is nag RhG2, neu yn achos staff mewn ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu, all gymeradwyo ceisiadau.

Mae'r swydd wag hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02516

More jobs from Cardiff Council