Swyddog Gofal Plant Preswyl - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

2 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i fodloni eu hanghenion unigol a goresgyn heriau gan eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus?

Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar fywydau ein plant, mae taliadau chwyddo hael yn cael eu talu am weithio ar nosweithiau, penwythnosau, Gwyliau Banc ac ar gyfer dyletswyddau cysgu dros nos, yn ychwanegol at eich cyflog.

Byddwch yn derbyn taliad chwyddo cyflog ychwanegol o 30% ar ôl 8pm yn ystod yr wythnos, 50% ar benwythnosau a £38 ar gyfer dyletswyddau cysgu dros nos.

Gall Caerdydd gynnig cyfle i weithio ar draws ein cartrefi plant amrywiol gan roi'r cyfle i chi ennill a thyfu eich profiad yn gweithio ochr yn ochr ag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol ar draws ein cartrefi plant yng Nghaerdydd.

Gallwn gynnig oriau gwaith hyblyg, p'un a ydych yn chwilio am waith rhan-amser neu lawn-amser, a allai ffitio o amgylch eich ffordd o fyw bersonol.

Mae sicrhau bod y staff cywir yn cael eu paru â'r plentyn neu'r person ifanc cywir wrth wraidd y gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu. Byddai gennych un gweithle sefydlog ond o bryd i'w gilydd efallai y bydd eich sgiliau a'ch dull gweithredu'n fwy addas ar gyfer un o'n cartrefi eraill. Mae ein cartrefi i gyd yn agos at ei gilydd ac ni fyddai hyn yn cynnwys unrhyw deithio afresymol.

**Am Y Swydd**
Rydym yn edrych i recriwtio i swyddi llawn-amser a rhan-amser.

Mae'n cymryd math arbennig o berson i ymrwymo ei yrfa i gefnogi eraill. Byddai eich amynedd, eich empathi a'ch natur ofalgar yn eich gwneud yn berson delfrydol i gefnogi unigolion ar draws ein cartrefi yng Nghaerdydd. Os ydych chi'n teimlo mai dyma'r math o berson ydych chi, yna chi yw'r person rydym yn chwilio amdano.

Rydym yn chwilio am unigolion i helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael lefel ac ansawdd uchel o gymorth unigol drwy gydol eu hamser yn ein cartrefi.

Byddwch yn gweithio mewn tîm sy'n cefnogi plant a phobl ifanc i gyflawni canlyniadau cadarnhaol, i feithrin perthnasau priodol ac i gael hwyl, gan fod yno ar bob cam o'u datblygiad. Mae angen i chi fod yn barod i ddysgu a rhannu profiadau, sgiliau a gwybodaeth tra hefyd yn rhoi plant a phobl ifanc wrth wraidd eich rôl.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Fel Swyddog Gofal Plant Preswyl, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu gofal uniongyrchol a chymorth effeithiol i bobl ifanc i'w galluogi i gyflawni canlyniadau cadarnhaol yn unol â'u cynllun personol gofal plant.

Mae pob diwrnod yn wahanol, a byddwch yn wynebu heriau newydd - mae angen aelodau o staff arnom sydd ag agwedd gadarnhaol, sy'n barod i fynd yr ail filltir i'r bobl ifanc yn eu gofal.

Mae angen i'n tîm helpu i gydnabod a hyrwyddo unigoliaeth, natur unigryw ac anghenion amrywiol pobl ifanc tra'n darparu amgylchedd meithringar a chadarnhaol.

Fel rhan o'r rôl, byddwch yn cymryd rhan lawn yn yr amgylchedd gofal a byw â chymorth o fewn y cartref a fydd yn cynnwys glanhau'r cartref, cynnal a chadw, paratoi prydau bwyd a helpu pobl ifanc i fynd i ddigwyddiadau, gweithgareddau, addysg, apwyntiadau a chyfarfodydd.

Byddwch yn cefnogi'r cynlluniau addysg ar gyfer y plant, a all gynnwys gwaith cartref, adolygu, gwaith project a gweithgareddau addysgol eraill. Byddwch yn hybu darllen a datblygiad deallusol pobl ifanc drwy greu amgylchedd cadarnhaol ar gyfer dysgu a chymorth, gan greu cysylltiadau cadarnhaol gydag ysgolion, mynychu digwyddiadau, gweithgareddau a nosweithiau rhieni fel y bo'n briodol.

**Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad byddwch yn derbyn**:

- Hawliau i wyliau blynyddol cystadleuol a chynlluniau pensiwn.
- Help a chefnogaeth i gwblhau:

- Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan (Gofal Cymdeithasol Cymru)
- Cymhwyster Plant a Phobl Ifanc Lefel 2 (Craidd)
- Cymhwyster Plant a Phobl Ifanc Lefel 3 (Ymarfer)
- Anogir a chefnogir datblygiad proffesiynol parhaus a chynnydd o fewn y proffesiwn a chynigir cyfleoedd hyfforddi rheolaidd.
- Cyfleoedd hyfforddi i ddysgwyr Cymraeg ddatblygu eu sgiliau ymhellach.
- Darperir goruchwyliaeth ffurfiol ac anffurfiol.
- Mynediad at wasanaethau lles staff CareFirst.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a'r fanyleb person wrth ymgeisio am y swydd uchod.

Mae'r swydd hon yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i'r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy'n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy'n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Mae'r swyddi hyn yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol,

More jobs from Cardiff Council