Rheolwr Safle/gofalwr Ysgol - Barry, United Kingdom - Vale of Glamorgan Council

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Amdanom ni**
Mae Ysgol y Ddraig yn ysgol gynradd dau ddosbarth mynediad cyfrwng Saesneg, yng nghanol tref hanesyddol Llanilltud Fawr. Ers i ni agor ein hysgol yn 2015, rydym wedi ymroi i sicrhau bod ein plant i gyd yn gallu:
**Cyflawni **drwy ddyheadau uchel, disgwyliadau uchel a pharch at bawb

**Herio** drwy gwricwlwm sy'n gynhwysol, yn berthnasol ac yn atyniadol

**Mwynhau **dysgu gyda'n gilydd, wrth ddod yn ddinasyddion annibynnol, gofalgar a gweithgar

Rydym yn ddigon ffodus i gael safle ysgol a adeiladwyd yn bwrpasol drwy Ysgolion yr 21ain Ganrif, sydd yn rhan o Gymuned Ddysgu Llanilltud. Mae Ysgol y Ddraig yn ysgol flaengar, groesawgar a gofalgar, lle caiff plant eu meithrin a'u hysbrydoli i gyrraedd eu potensial llawn. Mae ein Cwricwlwm 'ACE' yn sicrhau bod plant yn cael y cyfle i dyfu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u profiadau wrth iddynt weithio tuag at fod yn ddysgwyr uchelgeisiol a galluog; cyfranwyr mentrus, creadigol; dinasyddion moesegol a gwybodus; ac unigolion iach, hyderus.

**Am y Rôl**
Manylion Cyflog: Gradd 4, PCG 5-7, £ £11.59 yr awr

Oriau gwaith / Wythnosau'r flwyddyn: 35awr yr wythnos, Llun - Gwener, 52 wythnos

Patrwm Gweithio Shifftiau Hollt 6.00am-9.30am a 2.30pm-6.00pm (yn amodol ar drafodaeth)

**Disgrifiad**:
Rydym yn ceisio penodi unigolyn hynod gyfrifol a brwdfrydig i ymuno â'n tîm fel Rheolwr Safle/Gofalwr Ysgolion. I gefnogi'r Pennaeth/UDA a'r Corff llywodraethu i gymryd cyfrifoldeb dros reoli safle'r ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod yr ysgol yn gweithredu'n llyfn trwy gynnal ei chyfleusterau, ei thiroedd a'i hoffer mewn cyflwr gwych, gan gymryd cyfrifoldeb dros reoli contractwyr allanol sy'n gweithio ar y safle, a goruchwylio staff eraill y safle gan gynnwys dyrannu a monitro gwaith, os yw'n berthnasol.

Llunio rhestr fer:

Cyfweliadau: wythnos yn dechrau

**Amdanat ti**

Bydd angen:

- Profiad o weithio mewn rôl debyg.
- Profiad o ddiogelwch adeiladau gan gynnwys gosod larymau.
- Profiad o weithio ym maes cynnal a chadw/trwsio adeiladau.

Oes angen gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd?: Manwl

**Sut i wneud cais**

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Miss Rebecca Cadman neu Mrs Lisa Jones

Job Reference: SCH00490

More jobs from Vale of Glamorgan Council