Swyddog Tgch - Barry, United Kingdom - Vale of Glamorgan Council

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Amdanom ni**
Gwasanaeth cymorth TGCh i holl adrannau'r Cyngor. Rheoli anghenion technolegol amrywiol Awdurdod blaengar sy'n datblygu'n gyson. Mae'r tîm Rhwydwaith a Chyfathrebu yn gyfrifol am weithredu a chefnogi'r rhwydwaith a'r gwasanaethau ffôn ym mhob rhan o'r Cyngor.

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Cyflog: Gradd 6 PGC £25,409 i £27,852

Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr, dydd Llun i ddydd Gwener

Prif Weithle: Y Swyddfeydd Dinesig, Y Barri

**Disgrifiad**:
Byddwch yn cefnogi ac yn cynnal, fel rhan o dîm, seilwaith WAN, LAN y Cyngor ar draws y Cyngor. Bydd hyn yn cynnwys switshis, rheolwyr diwifr, llwybryddion, waliau tân a thechnolegau VoIP. Bydd gofyn i chi deithio'n rheolaidd i wahanol safleoedd ledled y Sir gan gynnwys ysgolion ac adeiladau'r Cyngor. Byddwch hefyd yn cael cyfle o bryd i'w gilydd i weithio gartref yn dibynnu ar ofynion y gwasanaeth.

**Amdanat ti**
Bydd angen gwybodaeth arnoch ac yn ddelfrydol brofiad yn y cynhyrchion canlynol:

- Cynhyrchion rhwydwaith Aruba (switshis, pwyntiau mynediad, rheolwyr di-wifr a Chanolog) a phrofiad o'u defnyddio
- Cynhyrchion rhwydwaith Cisco (switshis a llwybryddion).
- Cynhyrchion UC Cisco (CUCM a Jabber).
- Gwasanaethau PSTN.
- Waliau Tân.
- Meddalwedd hidlo gwe.
- Rhwydwaith PSBA.
- Profiad o weithio gyda chyflenwyr trydydd parti, fel BT.
- Gwybodaeth am geblau strwythuredig (rôl ddylunio/goruchwylio yn unig).

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Oes angen gwiriad GDG: Oes

Gweler y disgrifiad swydd/manyleb person atodedig i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: RES00331

More jobs from Vale of Glamorgan Council