Gweinyddwr Trefniadau Mynediad Ar Gyfer Arholiadau - Cardiff, United Kingdom - Cardiff and Vale College

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Swydd Wag Fewnol / Allanol**

**Cyf: 12221**

**Teitl y Swydd**:Gweinyddwr Trefniadau Mynediad ar gyfer Arholiadau**

**Contract**:Cyfnod Penodol hyd at fis Gorffennaf 2024, Yn Ystod y Tymor yn Unig**

**Cyflog: £23,152 - £23,930 y flwyddyn**

**Oriau**: 15 awr yr wythnos**

**Lleoliad**:Heol Dumballs, Caerdydd**

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn awyddus i benodi Gweinyddwr Trefniadau Mynediad ar gyfer Arholiadau a fydd yn gweithio'n bennaf ar ein Campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo'r Tîm Dysgu Cynhwysol gyda gwaith clerigol a'r tasgau gweinyddol sydd ynghlwm â gwneud trefniadau mynediad ar gyfer arholiadau ac addasiadau rhesymol ar gyfer arholiadau. Dyma rai o ddyletswyddau penodol y swydd:

- Gweithio ochr yn ochr ag aseswyr trefniadau mynediad i sicrhau y dilynir canllawiau trefniadau mynediad ac addasiadau rhesymol y JCQ a bod dysgwyr yn cael eu cefnogi'n briodol yn eu harholiadau.
- Sicrhau bod ffeiliau dysgwyr yn gywir, yn gyfredol ac yn cael eu storio yn unol â rheoliadau'r corff dyfarnu a'r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data.
- Cynnal cofnodion o systemau gwybodaeth reoli, e.e. EBS Ontrack, OLM, Cronfa Ddata ADY.
- Cynnig cyngor cyffredinol ac arweiniad i staff, dysgwyr, rhieni/gofalwyr ac eraill ar faterion trefniadau mynediad ac addasiadau rhesymol.
- Cysylltu â dysgwyr, rhieni/gofalwyr, ysgolion/sefydliadau addysg, asiantaethau allanol a staff coleg i adnabod dysgwyr a all fod angen trefniadau mynediad o bosibl.
- Darparu cymorth clerigol/gweinyddol cyffredinol i'r Tîm Dysgu Cynhwysol, e.e. llungopïo, ffeilio, llenwi ffurflenni safonol, ysgrifennu cofnodion ac ymateb i ohebiaeth gyffredinol.

Bydd gennych gefndir addysgol cadarn gyda sgiliau llythrennedd a rhifedd da. Byddwch hefyd yn brofiadol o ran defnyddio rhaglenni Microsoft Office ac yn meddu ar lefel uchel o sgiliau trefnu, yn cynnwys y gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith er mwyn bodloni terfynau amser amrywiol.

Mae modd cyflawni'r dyddiau ac oriau ar gyfer y swydd hon ar draws tri diwrnod gyda'r diwrnodau a'r amseroedd penodol i'w trafod yn y cyfweliad.

Byddai'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg o fantais i'r swydd hon, ond nid yw'n hanfodol.

Yn gyfnewid am eich gwaith caled a'ch ymroddiad i'n staff a'n dysgwyr, rydym yn cynnig buddion arbennig, gan gynnwys cynllun pensiwn hael, cynllun arian parod, rhaglen cymorth i weithwyr, cynllun Beicio i'r Gwaith, ap Headspace, a mynediad at dechnegau arbed arian drwy'r cynllun Porth Gwobrwyo.

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae'r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a'r broses asesu yn y Gymraeg.

**Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau yw 20/02/2024 am 12pm**

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

Bydd eich cyflogaeth gyda Choleg Caerdydd a'r Fro hefyd yn ddibynnol ar wiriadau geirdaon addas. Cyn i chi allu dechrau eich cyflogaeth, rhaid i Goleg Caerdydd a'r Fro gael dau eirda, un gan eich cyflogwr presennol neu gyflogwr mwyaf diweddar. Byddwn yn cysylltu â'ch canolwyr ar eich penodiad.

**Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.**

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.

More jobs from Cardiff and Vale College