Swyddog - (Dylunio, Contractau a Darparu) - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

3 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi ar gyfer Swyddog Arweiniol, yn gweithio o fewn yr Adran Dylunio, Contractau a Darparu.
**Am Y Swydd**
Mae Dylunio, Contractau a Darparu yn dîm sy'n ehangu'n gyflym ac mae'n allweddol o ran cynllunio a chyflawni prosiectau seilwaith yng Nghaerdydd. Bydd angen i ddeiliad y swydd ddarparu cymorth technegol ac AutoCad mewn amgylchedd heriol sy'n cael ei yrru gan elw, gan ddarparu cynlluniau priffyrdd ar gyfer Caerdydd a'r awdurdodau cyfagos. Rhai o brif ofynion y rôl fydd:

- Cymorth technegol ar gyfer paratoi dogfennau contract, rhestrau meintiau, adroddiadau, gan gynnwys gwerthuso tendrau.
- Cefnogi Rheolwyr Prosiectau i gyflawni gwaith.
- Cymorth technegol ar gyfer dylunio cynlluniau (cysyniad a dyluniad manwl)

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o helpu i gyflawni prosiectau priffyrdd, profiad o Auto CAD a gwybodaeth am ddogfennau contract priffyrdd.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl hon cysylltwch â Neil Pugh.

Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Fel sefydliad sector cyhoeddus mawr, mae'n bwysig i ni ein bod yn cefnogi lles economaidd ein dinasyddion a bod ein gweithlu'n adlewyrchu'r cymunedau a wasanaethwn yn well. Felly, er nad yw'n ofyniad ar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion:
sy'n 25 oed ac iau; nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant; o'n cymunedau lleol, yn benodol y rheiny o gymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Caerdydd sy'n gallu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PLA00284

More jobs from Cardiff Council