Mentor Gwirfoddolwyr Cymunedol X 6 - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

2 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn ymrwymedig â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid gwych i ymuno â'r Tîm Gwirfoddoli Cymunedol mewn Hybiau a Llyfrgelloedd ledled y ddinas. Bydd gennych brofiad blaenorol o weithio gyda gwirfoddolwyr ac yn deall eu hanghenion.

**Am Y Swydd**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo'r Cydlynydd Gwirfoddolwyr Cymunedol i recriwtio, hyfforddi, cynorthwyo a chydlynu gwirfoddolwyr. Byddwch yn gweithio gyda sefydliadau cymunedol, busnesau a rheolwyr i roi arweiniad a chymorth i'r gwirfoddolwyr yn eu tîm.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd angen i chi allu cyfathrebu'n dda mewn gwahanol leoliadau, gweithio'n dda mewn tîm, a chael agwedd gadarnhaol tuag at heriau newydd gyda pharodrwydd i addasu'n gyflym i newid.

Mae angen profiad o greu a chyflwyno hyfforddiant anffurfiol a rhaglenni datblygiad personol, a chadw at systemau, polisïau a gweithdrefnau. Mae angen gwybodaeth ymarferol dda o'r rhaglenni TGCh mwyaf cyffredin a'r gallu i roi cyngor i eraill ynghylch eu defnyddio.

Byddai profiad o recriwtio gwirfoddolwyr yn y gymuned yn fantais sylweddol ond nid yw'n hanfodol gan y cewch hyfforddiant

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Swydd dros dro yw hon tan 31 Mawrth 2025

Byddai'r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn benodol Cymraeg, Somalieg, Arabeg neu Bwyleg, o fantais ond nid yw'n hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Dylai ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael caniatâd cyn ymgeisio trwy lenwi ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y canlynol sy'n gallu cymeradwyo ceisiadau: y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig perthnasol, nad yw ar raddfa is na RhG2, neu, yn achos staff ysgolion, y Pennaeth/Corff Llywodraethu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02634

More jobs from Cardiff Council