Cynorthwy-ydd Gwaith Cymdeithasol Cam-drin Domestig - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

3 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa ym maes Gofal CYmdeithasol?

Mae dod yn Gynorthwy-ydd Gwaith Cymdeithasol yn cynnig cyfle gwych i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd.

Mae Cyngor Caerdydd yn recriwtio ar gyfer rôl newydd gyffrous yn ein Canolfan Ymyriadau. Mae angen cynorthwy-ydd gwaith cymdeithasol arnom i helpu i gyflawni prosiect sy'n cefnogi timau ar draws gwasanaethau plant wrth weithio gydag achosion lle mae trais domestig yn bresennol.

Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig.
- Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 28 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 33 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod.
- Mae ein diwylliant gweithio yn hyblyg, gyda chynllun oriau hyblyg yn eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i ch.
- Mynediad at Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwgsy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel, hyblyg, dibynadwy sy'n rhoi tawelwch meddwl.

Rydym eisiau penodi Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol i ymuno â'n gwasanaethau sy'n tyfu yn y Gwasanaethau Plant.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â'n timau sefydledig a chefnogol a fydd, gyda chefnogaeth y Prif Weithwyr Cymdeithasol (PWC) a Rheolwyr Tîm yn cynorthwyo gyda'r gwaith o ddarparu gwasanaethau. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gyfrifol am ddyrannu achosion o lwyth bach o waith bach lle bo angen ar gyfer y tîm penodol.

Rhaid i chi feddu ar werthoedd gwaith cymdeithasol cryf ac ymrwymiad i ddulliau parchus, cydweithredol, seiliedig ar gryfderau gyda'n teuluoedd a'n cydweithwyr.

Bydd gennych brofiad helaeth o weithio gyda phlant a phobl ifanc, profiad o weithio gyda gweithwyr proffesiynol amlasiantaethol, sgiliau asesu a chynllunio ac agwedd hyblyg wrth i'r gwasanaeth ddatblygu.

Byddai'n fantais deall deddfwriaeth berthnasol am blant, gan gynnwys trosolwg o'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ac ychydig o wybodaeth am Arwyddion Diogelwch.

Byddwch yn gallu asesu anghenion unigolion ar sail risg, trwy ddefnyddio systemau i gofnodi gwybodaeth a chynnig cynlluniau gofal. Byddwch yn gyfrifol am adolygu ansawdd gofal a sefydlu cynlluniau sy'n canolbwyntio ar y person ac sy'n galluogi. Dylech fod yn barod i ddilyn hyfforddiant priodol i'ch cefnogi yn eich rôl a gallu gweithio mewn tîm.

**Am Y Swydd**
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy'n rhoi'r unigolyn wrth wraidd ein gwaith. Mae'r timau'n gweithio yn ôl dull sy'n seiliedig ar gryfderau er mwyn bodloni anghenion pobl ifanc a'u teuluoedd.

Wrth weithio ochr yn ochr â'r gweithiwr cymdeithasol cam-drin domestig, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i ddatblygu a gweithredu'r model diogel gyda'n gilydd mewn cysylltiad â cham-drin domestig yn y Gwasanaethau Plant.

Bydd hyn yn cynnwys darparu ymgynghoriadau, ymweliadau ar y cyd, gwaith uniongyrchol, cefnogi gyda hyfforddiant, yn ogystal â datblygu'r model yn gyffredinol mewn ffyrdd newydd, creadigol a chyffrous.

Mae Diogel Gyda'n Gilydd yn fodel sy'n seiliedig ar gryfderau sy'n anelu at gadw plant yn ddiogel ac ynghyd â'r rhiant nad yw'n troseddu, trwy bartneru â'r rhiant hwnnw a thrwy annog newid ymddygiad cyflawnwr.

Nod y rôl yw gwella arferion a chynllunio diogelwch ar draws y Gwasanaethau Plant yng nghyd-destun cam-drin domestig.

Dewch i ymuno â ni i fod yn rhan o dîm newydd ei sefydlu sy'n canolbwyntio ar gymorth cynnar ac atal. Mae'r Ganolfan Ymyriadau yn hanfodol i helpu teuluoedd i gael y cymorth iawn ar yr adeg iawn. Dyna pam rydym yn datblygu ein gwasanaethau atal ac ymyrryd yn gynnar i sicrhau y gall teuluoedd ddefnyddio ystod o wasanaethau a chymorth ar wahanol lefelau i osgoi'r angen am ymyrraeth gwaith cymdeithasol statudol.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rhaid i chi feddu ar werthoedd gwaith cymdeithasol cryf ac ymrwymiad i ddulliau parchus, cydweithredol, seiliedig ar gryfderau gyda'n teuluoedd a'n cydweithwyr.

Bydd gennych brofiad helaeth o weithio gyda phlant a phobl ifanc, profiad o weithio gyda gweithwyr proffesiynol amlasiantaethol, sgiliau asesu a chynllunio ac agwedd hyblyg wrth i'r gwasanaeth ddatblygu.

Byddai'n fantais deall deddfwriaeth berthnasol am blant, gan gynnwys trosolwg o'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ac ychydig o wybodaeth am Arwyddion Diogelwch.

Byddwch yn gallu asesu anghenion unigolion ar sail risg, trwy ddefnyddio systemau i gofnodi gwybodaeth a chynnig cynlluniau gofal. Byddwch yn gyfrifol am adolygu ansawdd gofal a sefydlu cynlluniau sy'n canolbwyntio ar y person ac sy'n galluogi. Dylech fod yn barod i ddilyn hyfforddiant priodol i'ch cefnogi yn eich rôl a gallu gweithio mewn tîm.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a'r fanyleb person wrth ymgeisio am y swyddi uchod.

Mae'r swydd hon yn destun Gwiriad

More jobs from Cardiff Council