Disgrifiad Swydd a Manyleb Person - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

3 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Nhîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i helpu i gyflawni arferion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor a'i helpu i ddatblygu yn barod ar gyfer cam nesaf ein hymateb i ddarparu gwasanaethau i'r dinasyddion yr ydym yma i'w helpu.

Dewch i ymuno â thîm sy'n tyfu a datblygu drwy weithio ochr yn ochr â swyddogion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i sicrhau bod prosesau'r Cyngor yn cydymffurfio â gofynion y Ddeddf Diogelu Data.

Bydd y swydd hon yn rhoi'r cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiad yn y gweithle, yn ogystal â meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o'r gwaith a'r cyfrifoldebau sy'n rhan o weithio mewn Llywodraeth Leol yng Nghaerdydd.

**Am Y Swydd**
Mae tîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor yn cynnig gwasanaeth mynediad i wybodaeth a gwasanaeth Rheoli Cofnodion a Diogelu Data i holl wasanaethau a dinasyddion y Cyngor.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gofnodi a phrosesu ceisiadau am wybodaeth dan y Ddeddf Diogelu Data, gan gynnwys chwilio am fideo o ran ceisiadau CCTV, creu adroddiadau ar gyfer y Swyddog Diogelu Data ynghylch y ddarpariaeth a chydymffurfiaeth gyda Diogelu Data ledled y Cyngor a chynorthwyo'r Uwch Swyddog Preifatrwydd a Sicrwydd a'r Swyddog Preifatrwydd a Sicrwydd gyda gweithredu dilynol yn sgil digwyddiadau ac adroddiadau sicrwydd.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n rhan o dîm i gynnig gwasanaeth o'r safon orau.

Bydd angen i chi allu dadansoddi data a chydymdeimlo ag amgylchiadau cwsmeriaid a rhoi cyngor manwl gywir ac ystyrlon i gwsmeriaid, uwch swyddogion y cyngor ac aelodau eraill o'r tîm.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd ar sail secondiad gael caniatâd cyn gwneud cais trwy ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Bydd angen caniatâd gan y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog perthnasol neu uwch swyddog arall a enwebwyd, ar raddfa RhG2 o leiaf, neu gan y Pennaeth/Corff Llywodraethu yn achos staff ysgolion.

Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Os hoffech drafod unrhyw agwedd ar y swydd, cysylltwch â

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: RES01120

More jobs from Cardiff Council