Swyddog Cyswllt Porth I'r Teulu X 2 - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar yn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Mae'r gwasanaeth, a enillodd Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn ddiweddar, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ledled y ddinas.

Mae'r gwasanaeth yn defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar y teulu, yn seiliedig ar gryfderau, ac yn gynhwysol i adnabod y gefnogaeth fwyaf priodol a fydd yn diwallu anghenion unigolion a'u teuluoedd. Mae'r timau o fewn y gwasanaeth yn cydweithio gydag ystod o weithwyr proffesiynol a phartneriaid i sicrhau bod cefnogaeth ar y lefel iawn ac ar yr adeg iawn.
**Am Y Swydd**
Bydd deiliad y swydd yn gweithio fel rhan o'r Tîm Porth i Deuluoedd i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i deuluoedd a gweithwyr proffesiynol, mewn perthynas â gwasanaethau a ddarperir yn uniongyrchol gan Gymorth Cynnar a'r rhai a ddarperir gan asiantaethau partner eraill. Mae cyswllt â theuluoedd neu'r rhai sy'n atgyfeirio i'r gwasanaeth yn cael ei hwyluso trwy alwadau ffôn, gwe-sgwrs ac e-bost

Byddwn yn cynnig y canlynol i chi:

- Amgylchedd gwaith cyfeillgar a chefnogol.
- Cefnogaeth a goruchwyliaeth reolaidd i'ch cefnogi yn eich gwaith.
- Rhaglen hyfforddiant eang a helaeth gyda chyfleoedd i hyfforddi mewn meysydd penodol.
- Systemau a thechnoleg sy'n galluogi ac yn hyrwyddo gweithio hybrid.
- Cyfle i ddarparu gwasanaeth wyneb yn wyneb i blant bach, plant, pobl ifanc a'u rhieni/gofalwyr sy'n gwneud gwahaniaeth iddyn nhw a'u lles.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am bobl â'r nodweddion canlynol:

- Brwdfrydedd, cymhelliant a phositifrwydd.
- Gwydnwch a gallu ymateb yn gadarnhaol dan bwysau.
- Brwd dros wneud gwahaniaeth i fywydau teuluoedd ledled y ddinas
- Dealltwriaeth gynhwysfawr o anghenion cymhleth plant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
- Profiad profedig o feithrin perthnasoedd gwaith effeithiol gydag amrywiaeth o unigolion a grwpiau.
- Sgiliau i feithrin cydberthynas yn gyflym ac effeithiol trwy ddefnyddio sgiliau rhyngbersonol rhagorol.
- Y gallu i ddarparu gwybodaeth a chyngor clir a chywir.
- Gwybodaeth ymarferol gynhwysfawr o becyn Microsoft Office ac o systemau rheoli achosion.

Bydd yr unigolyn iawn hefyd yn gallu adnabod a yw unigolyn mewn perygl ac yn gallu ymgynghori a chysylltu â Gweithwyr Cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol neu asiantaethau partner eraill yn ôl y gofyn.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae 2 swydd dros dro ar gael, tan 31 Mawrth 2025, y ddwy yn llawn amser (37 awr yr wythnos).

I gael rhagor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Bethany Kennan, Arweinydd Tîm Porth i'r Teulu ar

Mae'r swydd hon yn destun Gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_ _._

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03968

More jobs from Cardiff Council