Isdeitlydd Cymraeg - Glamorgan, United Kingdom - Ericsson

Ericsson
Ericsson
Verified Company
Glamorgan, United Kingdom

2 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
Ganed Red Bee yn y cyfryngau ac am y 15+ mlynedd diwethaf rydym wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i ddatblygiad y diwydiant cyfryngau byd-eang, gan rymuso brandiau cyfryngau cryfaf y byd, darlledwyr a pherchnogion cynnwys i gysylltu ar unwaith â chynulleidfaoedd unrhyw le ar unrhyw adeg. Mae ein partneriaid yn cynnwys BBC, S4C, Channel 4, ITV, Canal+, ExtremeE, TV5MONDE a llawer o rai eraill.

Rydym yn gwmni byd-eang, yn gweithio ar draws ffiniau mewn 175 o wledydd, yn cynnig diwylliant amrywiol sy'n cael ei yrru gan berfformiad ac amgylchedd arloesol a deniadol lle mae gweithwyr yn gwella eu potensial bob dydd. Mae ein gweithwyr yn byw ein gweledigaeth, gwerthoedd craidd ac egwyddorion arweiniol.
**#LI-Remote**

**Y cyfle hwn**
Mae isdeitlwyr yn darparu is-deitlau byw ac wedi'u recordio ymlaen llaw ar gyfer ystod eang o allbwn teledu mewn ffordd sy'n cyfleu bwriadau a gwybodaeth y gwreiddiol i wylwyr sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw.

Cynhyrchir isdeitlau byw yn bennaf gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais gyda phroses a elwir yn ail-siarad. Yn ogystal ag ailadrodd geiriau, mae isdeitlwyr yn siarad atalnodi a gorchmynion eraill. Mae allbwn isdeitlo byw Red Bee Media yn cynnwys newyddion cenedlaethol a rhanbarthol, chwaraeon byw a digwyddiadau proffil uchel fel Wimbledon a'r Eisteddfod.

Mae is-deitlau wedi'u recordio ymlaen llaw yn cynnwys codau amser i sicrhau bod isdeitlau'n cyfateb i'r trac sain, ac yn cael eu cynhyrchu gan ddefnyddio amrywiaeth o brosesau. Yn ogystal â'r geiriau eu hunain, mae angen i isdeitlwyr ffeiliau ystyried ffactorau megis cyflymder darllen, labeli disgrifiadol a'r ffordd orau o gyfleu blas a theimlad rhaglen.

Mae Gwasanaethau Mynediad yn gweithredu yn yr amgylchedd darlledu, gan ddarparu gwasanaeth 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Rhaid i is-deitlwyr fod yn barod ac yn gallu gweithio ar batrwm sifft cylchdro sy'n cwmpasu ystod o sifftiau.

**Beth fyddwch chi'n ei wneud**
- Cynhyrchu is-deitlau o ansawdd uchel ar gyfer ystod eang o raglenni gan gynnwys newyddion a materion cyfoes, chwaraeon byw, rhaglenni dogfen, digwyddiadau cerddoriaeth, rhaglenni plant, dramâu a sebonau.
- Golygu testun ysgrifenedig neu drac sain yn isdeitlau clir, hawdd eu darllen sy'n cadw synnwyr a blas llawn y rhaglen.
- Prawfddarllen, adolygu a chywiro gwaith eich hun yn ogystal â thestun a sgriptiau a grëwyd gan eraill i sicrhau cywirdeb 100%.

**Byddwch yn dod â**:

- Safon ardderchog o Saesneg ysgrifenedig, gan gynnwys sillafu gramadeg a sylw manwl i fanylion. Dealldwriaeth cryf o'r Gymraeg.
- Profiad o ddefnyddio sgiliau prawfddarllen a golygu
- Llais siarad clir a hyderus.
- Yn gallu bod yn ddigynnwrf, meddwl yn gyflym a gwneud penderfyniadau golygyddol da o fewn amgylchedd anrhagweladwy a dan bwysau teledu byw.
- Dealltwriaeth o'r anawsterau y mae pobl â nam ar eu clyw yn eu hwynebu wrth wylio'r teledu.
- Diddordeb mewn, a gwybodaeth eang am, ystod eang iawn o allbwn teledu, ac ymwybyddiaeth o ddatblygiadau parhaus yn y diwydiant darlledu.

**Pam ymuno â Red Bee?**
Yn Red Bee byddwch yn ymuno â thîm rhyngwladol, gan gydweithio i ddarparu profiadau cyfryngol rhagorol trwy atebion a gwasanaethau blaengar. Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr sy'n rhannu angerdd am y cyfryngau ac ymdeimlad clir o onestrwydd yn y gweithle. Yn eich dydd i ddydd, cewch gyfle i weithio gyda rhai o gwmnïau cyfryngau mwyaf a mwyaf arloesol y byd, gan ddefnyddio technolegau a systemau cyfryngau blaenllaw i ddarparu ein gwasanaethau. Yma gallwch ddod â'ch doniau, sgiliau a safbwyntiau unigryw i'r bwrdd a chydweithio mewn amgylchedd meddwl agored a chynhwysol.

Mae annog sefydliad amrywiol a chynhwysol yn greiddiol i'n gwerthoedd yn Ericsson, dyna pam rydyn ni'n ei feithrin ym mhopeth a wnawn. Credwn yn wirioneddol, trwy gydweithio â phobl â phrofiadau gwahanol, ein bod yn ysgogi arloesedd, sy'n hanfodol ar gyfer ein twf yn y dyfodol. Rydym yn annog pobl o bob cefndir i wneud cais a gwireddu eu potensial llawn fel rhan o'n tîm Ericsson.

Mae Ericsson yn falch o fod yn gyflogwr Cyfle Cyfartal a Gweithredu Cadarnhaol.

More jobs from Ericsson