Swyddog Newid Cymdeithasol I Mewn I Waith - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council
Description
**Am Y Gwasanaeth**Mae'r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn darparu cefnogaeth i bobl sy'n chwilio am waith neu'n edrych i uwchsgilio. Gall y tîm gynnig cymorth a mentora dwys drwy brojectau a ariennir yn allanol a chyfleoedd i wirfoddoli.
Mae'r Tîm Cyswllt Cyflogwyr, sy'n rhan o'r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith, yn rhoi pecyn cyn-gyflogi cyflawn i fusnesau lleol. Mae'r tîm yn gallu paru ceiswyr gwaith addas a medrus â chyfleoedd gwaith gyda'r busnesau lleol. Mae'r Swyddog newid Cymdeithasol i Mewn i Waith yn rhan o'r tîm Cyswllt Cyflogwyr mewn capasiti strategol a rheoli llinell.
**Am Y Swydd**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig sydd â gwybodaeth am werth cymdeithasol mewn lleoliad caffael i ymuno â thîm y Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith (Cyswllt Cyflogwyr).
Bydd y rôl yn cynnwys ymgysylltu â chyflenwyr yng Nghaerdydd ar draws pob sector i frocera, mynd ar drywydd a gwireddu cyflawni gwerth cymdeithasol. Drwy werth cymdeithasol, ein nod yw sicrhau'r cyfleoedd gorau posibl i geiswyr gwaith a gweithwyr â chyflogau a sgiliau isel yng Nghaerdydd.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda'r tîm Cyswllt Cyflogwyr, y Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith ehangach, Academi Adeiladu CITB Onsite, Caffael a Chomisiynu ac Addewid Caerdydd i feithrin gwybodaeth am gyfleoedd a grëir drwy ymrwymiadau gwerth cymdeithasol, gan gynnwys drwy fframwaith gwerth cymdeithasol TOMS, ac i nodi unigolion, grwpiau a chymunedau a all elwa drwy eu darparu.
Rydym yn awyddus i recriwtio person sydd â dealltwriaeth neu sy'n barod i ddysgu'r broses gaffael yn gyflym i frocera a herio cyflenwyr wrth ddarparu gwerth cymdeithasol.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu dangos gwybodaeth o ymrwymiadau gwerth cymdeithasol/manteision cymunedol mewn lleoliad caffael. Mae dealltwriaeth o'r rhwystrau i gyflogaeth ar gyfer ceiswyr gwaith a chymunedau difreintiedig yn ddymunol.
Dylai'r ymgeisydd allu dangos tystiolaeth o brofiad o weithio ar draws nifer o dimau ac adrannau gan ddefnyddio dull cydgysylltiedig a chymryd rhan mewn cyfarfodydd lefel uchel gydag amrywiaeth o randdeiliaid. Mae sgiliau negodi a dylanwadu cryf yn hanfodol ar gyfer y rôl.
Yn ogystal, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, yn gallu gweithio gyda a deall anghenion cyflenwyr a phobl sy'n agored i niwed. Bydd angen i chi allu aml-dasgio, cymryd perchnogaeth o broblemau a gallu defnyddio TG o ran y rhan fwyaf o becynnau Microsoft.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
- Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd weithio ar sail hybrid gan gynnwys gweithio gartref ac o wahanol safleoedd y Cyngor.
Swydd dros dro yw hon tan 31 Mawrth 2025.
Dylai ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael caniatâd cyn ymgeisio trwy lenwi ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y canlynol sy'n gallu cymeradwyo ceisiadau: y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog neu Uwch Swyddog Enwebedig perthnasol, nad yw ar raddfa is na RhG2, neu, yn achos staff ysgolion, y Pennaeth/Corff Llywodraethu.
Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
O ganlyniad i'r amgylchiadau COVID-19 presennol, bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Joe Cicero ar
Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwyd
Job Reference: PEO03863
More jobs from Cardiff Council
-
Diogelwch Cymunedol
Cardiff, United Kingdom - 1 week ago
-
Swyddog Gwella Gwasanaethau a RHeoli Gwybodaeth
Cardiff, United Kingdom - 1 week ago
-
Cogydd Arweiniol
Cardiff, United Kingdom - 3 weeks ago
-
Early Help Mentor
Cardiff, United Kingdom - 1 week ago
-
Ceidwad Stordy
Cardiff, United Kingdom - 1 week ago
-
Assistant Cook
Cardiff, United Kingdom - 1 week ago