Gweithiwr Cymdeithasol Trais Domestig - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

3 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Mae Cyngor Caerdydd yn recriwtio ar gyfer rôl newydd gyffrous yn ein Hyb Ymyriadau. Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol profiadol i arwain ar brosiect newydd yn cefnogi timau statudol sy'n gweithio gydag achosion lle mae trais domestig yn bresennol.

**Amdanom NI**

Y manteision a gynigir

Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig.
- Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 27 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 32 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod.
- Mae ein diwylliant gweithio yn hyblyg, gyda chynllun fflecsi yn eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i chi.
- Mynediad i Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwgsy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel, hyblyg, dibynadwy sy'n rhoi tawelwch meddwl.

Mae Caerdydd yn brifddinas fywiog, amrywiol a chyffrous i bawb. Nid nepell o lan y môr, y cymoedd a'r mynyddoedd, siopa penigamp a bywyd nos neu leoliadau pentrefol tawel.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Chaerdydd, sy'n Awdurdod ar daith i fabwysiadu'r ymagwedd Arwyddion Diogelwch i ganolbwyntio ar gynorthwyo ein plant. Rydym yn credu y dylai plant, pobl ifanc a'u teuluoedd gael y math cywir o gymorth ar yr adeg y maent ei angen

**Am Y Swydd**

Dewch i ymuno â ni i fod yn rhan o dîm newydd ei sefydlu sy'n canolbwyntio ar gymorth cynnar ac atal. Mae'r Hyb Ymyriadau yn hanfodol i helpu teuluoedd i gael y cymorth iawn ar yr adeg iawn. Dyna pam rydym yn datblygu ein gwasanaethau atal ac ymyrryd yn gynnar i sicrhau y gall teuluoedd ddefnyddio ystod o wasanaethau a chymorth ar wahanol lefelau i osgoi'r angen am ymyrraeth gwaith cymdeithasol statudol.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Byddwch yn asesu, cynllunio gofal, cynllunio â ffocws ar y person a hyrwyddo sgiliau rheoli gofal, gan weithio gyda'r holl bartneriaid i nodi a diwallu anghenion cymorth gofal unigolion. Byddwch yn cyflawni ymyriadau uniongyrchol gyda theuluoedd gan ddefnyddio menter a hyblygrwydd i fod yn greadigol gyda gwaith. Bydd ein timau cefnogi yn eich annog chi i ddatblygu eich sgiliau proffesiynol gyda mynediad at gymorth, goruchwylio a hyfforddiant rheolaidd.

Bydd angen i chi fod yn Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig, meddu ar sgiliau asesu ardderchog a gallu ysgrifennu cofnodion ac adroddiadau cryno. Mae gweithio'n dda mewn tîm a sgiliau cyfathrebu a threfnu ardderchog yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Mae'r swyddi hyn yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Dylai ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael caniatâd cyn ymgeisio trwy gwblhau ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y canlynol sy'n gallu cymeradwyo ceisiadau: y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog neu Uwch Swyddog Enwebedig perthnasol, nad yw ar raddfa is na RhG2, neu, yn achos staff ysgolion, y Pennaeth/Corff Llywodraethu.

Yn rhan o'r swydd hon, rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i'r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy'n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy'n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a'r holl ysgolion.

Mae'r swyddi hyn yn addas i'w rhannu.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02784

More jobs from Cardiff Council