Rheolwr Cyflawni - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

2 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Oherwydd ail-strwythuro ardal gwasanaeth mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw (DAChC) newydd am Reolwr Cyflawni cymwys i arwain, rheoli a datblygu tîm cyflenwi sy'n cynnwys Rheolwyr Prosiect, Syrfewyr Meintiau a thîm cynnal a chadw DLO.

Mae'r Tîm hwn sydd newydd ei sefydlu yn gyfrifol am ddylunio a darparu ystod eang o brosiectau sy'n gysylltiedig ag adeiladau ar draws ystadau ysgol ac adeiladau corfforaethol y Cyngor. Mae'r Tîm yn mabwysiadu dull aml-ddisgyblaeth er mwyn sicrhau bod ystod eang o amcanion polisi'r Cyngor yn cael eu hystyried yn llawn. O ran hyn, mae nodau cynaliadwyedd, ynni, iechyd a diogelwch, gwastraff a lleihau carbon y Cyngor, ochr yn ochr â'i amcanion cynhwysiant, buddiannau cymunedol, lles a hygyrchedd, i gyd yn cael eu hystyried a'u cymhwyso i gyflawni prosiectau ar amser, o fewn cyllideb ac i'r ansawdd gofynnol.

**Am Y Swydd**
Prif bwrpas y rôl yw sicrhau bod y gwaith o godi adeiladau newydd, adnewyddu a chynnal a chadw adeiladau yn cael ei gyflawni'n effeithiol i safon gyson uchel yn unol â gofynion y cwsmer, trwy ystod o fecanweithiau cyflenwi gan gynnwys contractwyr allanol a thimau mewnol.

Mae'r Cyngor yn cynnig pecyn buddion hael gan gynnwys:

- 27 diwrnod o wyliau blynyddol, gan godi i 32 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth;
- pensiwn cyfrannol hael;
- cynllun ildio cyflog CGY (drwy bartneriaeth ag AVC Wise);
- mynediad am bris gostyngol i rai o Ganolfannau Hamdden y Cyngor;
- tocynnau bws blynyddol am bris gostyngol;
- cefnogaeth ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus ac
- amrywiaeth o rwydweithiau cymorth staff

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd wedi cymhwyso'n briodol (Siartredig neu gyfatebol) gyda phrofiad da o ran arweinyddiaeth, rheoli a datblygu timau sy'n gyfrifol am ddarparu adeiladau newydd, adnewyddu a gwaith cynnal a chadw sydd wedi'i gynllunio neu sy'n ymatebol ar draws amrywiaeth o fathau o adeiladau gan gynnwys ysgolion.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y canlynol hefyd:

- profiad da ym maes caffael a rheoli contractwyr allanol;
- gwybodaeth dda am y polisïau a'r fframweithiau rheoleiddio sy'n berthnasol i adeiladu a rheoli adeiladau;
- profiad ymarferol o nodi a rheoli risg, yn enwedig rhai o natur iechyd a diogelwch;
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- sgiliau trefnu personol da a'r gallu i reoli llwyth gwaith amrywiol a heriol mewn amgylchedd sy'n newid yn gyson.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Am drafodaeth anffurfiol a rhagor o wybodaeth am y rôl hon, cysylltwch â:
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Mae'r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: ECO00365

More jobs from Cardiff Council