Swyddog RHianta Corfforaethol - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

3 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain ac mae'n ymrwymedig i ddod yn '_Ddinas sy'n Dda i Blant_' sy'n rhoi hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd ein polisïau a'n strategaethau. Rhieni sy'n cael y dylanwad mwyaf ar blant a'u dyfodol. Yn ein barn ni, mae plant yn cyflawni'r canlyniadau gorau pan gânt eu cynorthwyo i dyfu a llwyddo o fewn eu teuluoedd eu hunain. Y gred hon arweiniodd at ddefnyddio'r dull _'Ffocws ar y Teulu_' sy'n ystyried y teulu cyfan ac yn cydlynu cymorth trwy'r gwasanaethau cyhoeddus, wedi'i deilwra i anghenion a chryfderau pob teulu.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o ymdrech Caerdydd i fod yn un o'r dinasoedd mwyaf bywiog a llwyddiannus yn y DU sy'n rhoi plant yn gyntaf, gyda'r uchelgais o arwain y ffordd o ran datblygu arfer yng Nghymru, byddem yn falch iawn o glywed gennych.

**Am Y Swydd**
Mae'r Gwasanaethau Plant yn awyddus i recriwtio Swyddog Rhianta Corfforaethol newydd i helpu i gefnogi'r Pwyllgor Cynghori Rhianta Corfforaethol ac i gyfrannu at waith ymchwil, datblygu a gweithredu'r Strategaeth Rhianta Corfforaethol.

Bydd deiliad y swydd yn helpu Ymgynghorwyr y Pwyllgor, gan gynnwys cydlynu ac ysgrifennu briffiau, adroddiadau a chyflwyniadau. Byddwch yn cwblhau dadansoddiad o arfer gorau o ardaloedd eraill yn y DU i lywio Rhianta Corfforaethol yng Nghaerdydd er mwyn sicrhau bod barn a phrofiadau'r plentyn wrth wraidd cyfrifoldeb Rhianta Corfforaethol. Byddwch yn gweithio'n agos ac yn rheoli cysylltiadau ag aelodau etholedig, uwch reolwyr a gweithwyr proffesiynol eraill er mwyn cryfhau'r prosesau a'r cysylltiadau sydd ar waith ar draws ystod eang o sefydliadau. Mae hwn yn gyfle cyffrous i sefydlu a chynnal cydberthnasau mewnol ac allanol sydd o fudd i ystod eang o uwch randdeiliaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat a di-elw.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd y rôl yn ceisio cryfhau a llywio profiadau Rhianta Corfforaethol plant a phobl ifanc er mwyn gwella canlyniadau a chynyddu cyfleoedd i blant Cyngor Caerdydd. Mae hwn yn gyfle cyffrous i gefnogi datblygiad prosesau, arferion a'r Strategaeth Rhianta Corfforaethol ar y cyd â phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yng Nghaerdydd, ac ar eu rhan.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae'r swydd hon yn destun Gwiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i'r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy'n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy'n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a'r holl ysgolion.

Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Sylwer nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw ar Wneud Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-Droseddwyr

Hysbysiad Preifatrwydd

Job Reference: PEO02724

More jobs from Cardiff Council