Cynghorydd Ymgysylltu Busnes - Neath, United Kingdom - NPTC Group of Colleges

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
Sefydlwyd Uned Datblygu Busnes Grwp Colegau NPTC yn 2017 gyda'r nod deuol o ddarparu gwasanaeth i unigolion a chyflogwyr y tu allan i'n cwricwlwm amser llawn. Rydym wedi tyfu'n sylweddol yn y 6 blynedd diwethaf ac mae'r adran yn rhedeg ac yn gweinyddu tua 300 o gyrsiau'r flwyddyn, ar gyfer dros 2000 o ddysgwyr o ddiwydiant a'r rhai sy'n ceisio ailsgilio/uwchsgilio a datblygu eu gyrfa. Wedi'i lleoli yng Nghastell-nedd, y Drenewydd a Bannau Brycheiniog, mae gan yr Uned Datblygu Busnes dîm o Gynghorwyr Ymgysylltu Busnes sy'n gweithio ar draws y rhanbarth i gefnogi busnesau. Lleolir y swydd hon i ddechrau yng Nghastell-nedd ac mae'n cynnwys trefnu ymweliadau â chyflogwyr a phenderfynu pa gymorth y gall y Coleg a'i bartneriaid ei ddarparu.

Graddfa 5, Pwyntiau 25-28, £29,385 - £31,645 y flwyddyn.

37 awr yr wythnos (gan gynnwys gyda'r hwyr ac yn gynnar yn y bore ac ar benwythnosau yn achlysurol).

Amser llawn, cyfnod penodol tan 31 Rhagfyr 2024.

**Ynglyn â chi**:Yn ddelfrydol dylai fod gennych gymhwyster Lefel 3 mewn disgyblaeth berthnasol a phrofiad perthnasol. Bydd gennych hefyd brofiad profedig o fewn amgylchedd Busnes-i-Fusnes a/neu werthu a phrofiad profedig o weithio mewn amgylchedd sy'n cael ei yrru gan dargedau. Dylech hefyd feddu ar gymhwyster lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (TGAU neu gyfwerth) a bod yn hyddysg mewn TG hyd at lefel 2. Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn rhywun sy'n drefnus, yn broffesiynol ac yn wych am ymgysylltu. Byddwch yn angerddol am ddatrys problemau a byddwch yn mwynhau rôl amrywiol brysur. Bydd angen y gallu i weithio'n annibynnol a bydd gofyn i chi reoli eich dyddiadur eich hun o amgylch anghenion cyflogwyr. Mae'r swydd yn gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod oriau busnes arferol er bod yna weithgareddau gyda'r nos ac ar y penwythnos o bryd i'w gilydd fel nosweithiau gwobrwyo a digwyddiadau rhwydweithio. Os yw hyn yn swnio fel chi a'ch bod am ymuno â thîm busnes llwyddiannus, cysylltwch â ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych

**Ynglyn â ni**:Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.

Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau'r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda'n staff addysgu hynod gymwys a'u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.

**Pam y dylech chi weithio i ni?**

Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Mae'r rhain yn cael eu gweinyddu trwy'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu'r Cynllun Pensiwn Athrawon ac yn darparu pensiynau sy'n cael eu cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Rydym yn cyfrannu dros £21 i'ch pensiwn, am bob £100 y byddwch yn ei ennill.

Mae'r lwfans gwyliau yn ardderchog o flwyddyn 1. Mae gennych 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn (yn codi i 32 yn dilyn 5 mlynedd o wasanaeth), a gan ein bod yn cau'r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod o wyliau ychwanegol. Gyda'r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 41 diwrnod o wyliau blynyddol fel Gweithiwr Cymorth Cyfathrebu BSL. Dyma yw cydbwysedd bywyd-gwaith

Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys gweithio ystwyth, absenoldeb sabothol a rhannu swydd, lle mae'n bodloni anghenion y Coleg. Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim i iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth Cymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae'r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant penodedig, sy'n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.

Mae maes parcio am ddim ym mhob un o'n prif golegau yn ogystal â lle i storio beiciau, ac os ydych wedi'ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.

Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd.

Ar ben hyn oll, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi'r fraint i ni o fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a'n cymunedau i lwyddo a ffynnu.

Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig

More jobs from NPTC Group of Colleges