Cynorthwywyr Cefnogi Ymrestru - Cardiff, United Kingdom - Cardiff and Vale College

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Cynorthwywyr Cefnogi Ymrestru**

**Cyf**: Cynorthwywyr Cefnogi Ymrestru

**Oriau**: 37 - Trefnir oriau gwaith ar sail rota rhwng 8am a 8pm

**Hyd y Lleoliad Gwaith**: Disgwylir y bydd yr ymgeiswyr ar gael rhwng 14/08/2023 a 30/09/2023

**Cyfradd Tâl**: £11.03 yr awr

**Lleoliad**: Campws Canol y Ddinas a Champws Heol Colcot

**Beth sydd ei angen arnom ni**:
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn chwilio am nifer o Gynorthwywyr Cefnogi Ymrestru i gefnogi gyda'r broses flynyddol o ymrestru hyd at 5,000 o ddysgwyr dros dymor yr haf. I gyflawni hyn, mae angen i ni recriwtio nifer o Gynorthwywyr Cefnogi Ymrestru a fydd yn cefnogi Timau'r Dderbynfa, Recriwtio a Derbyniadau gyda'r canlynol:

- Ymrestru dysgwyr yn uniongyrchol drwy ein prif ddesgiau ymrestru
- Creu Bathodynnau Adnabod Myfyrwyr
- Darparu cyngor ac arweiniad i ddarpar ddysgwyr yn ymwneud â Chyrsiau, Cyllid Myfyrwyr ac unrhyw gefnogaeth arall yn ymwneud â derbyniadau
- Cyfarfod a Chyfarch darpar ddysgwyr
- Cefnogi ein Timau Derbynfa drwy ddarparu cefnogaeth i'r Dderbynfa yn ogystal ag ateb galwadau ffôn, ymateb i ymholiadau drwy negeseuon e-bost a sgyrsiau ar-lein
- Cyflawni tasgau gweinyddol perthnasol sy'n ymwneud â'r broses ymrestru

**Manyleb Person**:
Bydd ein Cynorthwywyr Cefnogi Ymrestru yn mwynhau'r her o ymrestru niferoedd mawr o ddysgwyr yn llwyddiannus mewn amgylchedd prysur. Mae cyflymder ac effeithiolrwydd yn allweddol, ond cewch eich cefnogi gan ein tîm Gwasanaethau Myfyrwyr gwych.

Er nad yw'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd, byddem yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n rhugl yn y Gymraeg ac sy'n gallu ymwneud â myfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mi fydd angen gwybodaeth a dealltwriaeth gref o Microsoft Word ac Excel arnoch, ac mi fydd angen i chi fod yn hyderus wrth addasu yn gyflym i systemau TG newydd. Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu yn y dyddiau cyntaf ar ôl i chi gychwyn. Bydd angen sgiliau llythrennedd a rhifedd rhagorol arnoch.

Bydd angen i chi fod yn gyfathrebwr rhagorol ac yn gynrychiolydd gwych ar gyfer y coleg, gan mai chi, mewn sawl achos, fydd yr unigolyn cyntaf i nifer o'n dysgwyr newydd ymwneud ag ef. Bydd rhaid i chi felly fod yn hyderus yn ateb cwestiynau amrywiol gan gyfeirio pobl sydd ag ymholiadau mwy penodol at yr aelod cywir o staff.

**Mae'n rhaid i'r holl ymgeiswyr fod ar gael ar gyfer y diwrnodau hyfforddiant ar ddechrau'r lleoliad gwaith ac ar gyfer y prif ddyddiau ymrestru, sef 24 a 25 Awst.**

***

Bydd angen i chi fod **ar gael yn llawn **rhwng 14 Awst 2023 a 30 Medi 2023. Yn ystod y cyfnod yma, gallwn ganiatáu unrhyw apwyntiadau meddygol neu deuluol sydd eisoes wedi eu trefnu, ond ni allwn ganiatáu unrhyw wyliau sydd wedi eu trefnu ymlaen llaw. Rydym yn gweithredu ar sail sifftiau gyda rhai yn cychwyn am 8am a rhai yn gorffen am 8pm.

**Sut i wneud cais**:
Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae'r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a'r broses asesu yn y Gymraeg.

**Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau yw dydd Gwener 18 Awst am 12pm. Sylwch ein bod yn cadw'r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynharach os byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau.

More jobs from Cardiff and Vale College