Cydlynydd Ymgysylltu - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl ledled y ddinas sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella'u sgiliau; mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys drwy brosiect a ariennir yn allanol, cyfleoedd gwirfoddoli a mynediad i gyrsiau digidol a hyfforddiant sgiliau gwaith am ddim.

Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn cynnwys nifer o ffrydiau gwahanol gan gynnwys y Porth (cymorth clwb gwaith), Mentora Oedolion, Mentora Ieuenctid, Gwirfoddoli, Cyswllt Cyflogwyr a Lleoliadau Gwaith, Dysgu Oedolion, Sgiliau Digidol, Sgiliau Hanfodol a Chymorth Ansawdd.

**Am Y Swydd**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig â sgiliau cydlynu ardderchog ymuno â'n Tîm Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith.

Bydd y Cydlynydd Ymgysylltu yn rheolwr llinell ar dîm o Swyddogion Cynhwysiant Cymunedol, Swyddog Cynnwys Ar-lein a Hyfforddai i Mewn i Waith (Cyfryngau Cymdeithasol) o fewn y Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith. Bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb dros gyflwyno hawliadau ariannol chwarterol ar gyfer prosiectau wedi eu cyllido'n allanol, arwain ar gyflwyniadau ystadegol, monitro yn erbyn targedau prosiectau a gwella'r gwasanaeth.

Bydd deiliad y swydd yn cysylltu â chysylltiadau lleol a rhanddeiliaid ac yn gweithredu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer atgyfeiriadau a dderbynnir. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gasglu ystadegau i'w rhannu gyda'r cydlynydd i mewn i waith fel rhan o'r ddarpariaeth fwy. Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda phartneriaid mewnol eraill i wella'r ddarpariaeth gwasanaethau ar gyfer grwpiau cleientiaid a nodir.

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r Cydlynydd i Mewn i Waith (Porth) gyda phresenoldeb mewn Cyfarfodydd Cymunedol rhanbarthol ac adeiladu cysylltiadau â grwpiau cymunedol llawr gwlad.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Profiad helaeth o oruchwylio a rheoli eraill gan gynnwys hyfforddi a chefnogi.

Ymgysylltu â gwasanaethau cyhoeddus gan gynnwys cymunedau lleol i gynllunio, gweithredu a chyflawni gweithgareddau partneriaeth cydgysylltiedig.

Creu a chynnal partneriaethau ymgysylltu a phrosesau atgyfeirio gyda grwpiau llawr gwlad.

Profiad o waith rheoli perfformiad a datblygu canlyniadau a rennir â sefydliadau partner.

Profiad o raglenni a ffurflenni a ariennir yn allanol.

Byddwch yn gallu datblygu llwyfannau Cyfryngau Cymdeithasol y Gwasanaethau Cyngor i Mewn i Waith, gwefan y Gwasanaeth i Mewn i Waith a'r cyfleuster Gwesgwrsio.

Byddwch yn darparu enghreifftiau arfer gorau ac astudiaethau achos i hyrwyddo gweithgareddau cydgynhyrchu sy'n cynorthwyo â monitro a gwerthuso'r gwaith o ddarparu rhaglenni I Mewn i Waith ehangach.

Bydd gennych brofiad o gysylltu a chreu perthynas ystyrlon â phartneriaid wrth ddarparu gwasanaethau yn eu hadeiladau

Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r tîm ansawdd a pherfformiad i sicrhau cywirdeb a chydymffurfiaeth data yn unol â gofynion cyllido.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Swydd dros dro tan 31/03/2024 yw hon.

Bydd y swydd yn gofyn am weithio o nifer o leoliadau gwahanol, gan gynnwys Hyb y Llyfrgell Ganolog ac adeiladau Hybiau Cymunedol eraill.

Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig perthnasol ar radd nad yw'n is nag RhG2, neu yn achos staff mewn ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu, all gymeradwyo ceisiadau.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03029

More jobs from Cardiff Council