Athro Plant - Cardiff, United Kingdom - Cardiff and Vale College

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Swydd Wag Fewnol / Allanol**

**Cyf**:12018**

**Teitl y Swydd**:Athro Plant - Dysgu fel Teulu**

**Contract: Llawn Amser 0.5FTE**

**Oriau: 18.5 awr yr wythnos**

**Cyflog: £22,583 - £44,444 pro rata**

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn awyddus i benodi Athro Plant i gynnig cymorth priodol i ddysgwyr er mwyn bodloni eu hanghenion academaidd a llesiant.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus y swyddi'n bennaf yn gyfrifol am ymgymryd â'r holl waith addysgegol, fel paratoi gwersi, addysgu yn yr ystafell ddosbarth, marcio. Cyflwyno cyrsiau/gweithdai Dysgu fel Teulu gyda phlant yn unig neu sesiynau i blant ac oedolion gyda'i gilydd yn ein hysgolion lleol.

Mae gan y rôl fuddion gwych, pensiwn hael, cynllun arian parod iechyd, cynllun Beicio i'r Gwaith, ap Headspace am ddim, mynediad i gampfeydd a chymorth lles, ynghyd â llwybrau gyrfa trawiadol o fewn y coleg.

Bydd y cyfrifoldebau'n cynnwys:

- Cynnal asesiadau ar ddechrau ac ar ddiwedd y cyrsiau er mwyn monitro ac arddangos cynnydd yn ogystal â nodi anghenion cymorth dysgu.
- Ymgymryd â'r holl waith sefydliadol a gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r uchod. Mae hyn yn cynnwys, mynd i gyfarfodydd tîm, cymryd rhan mewn gweithgareddau datblygu proffesiynol ac arfarniadau staff, cynnal cofnodion cywir yn gysylltiedig ag addysgu yn cynnwys manylion asesu a phresenoldeb.
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau gwerthuso cwrs a chyfrannu at y gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm. Adrodd ar gyfer cyllid Teuluoedd yn Gyntaf yn ôl yr angen.
- Ymwneud â marchnata, h.y. adnabod gofynion defnyddwyr, creu deunyddiau hyrwyddo priodol a gweithio ag asiantaethau allanol lle bo'n briodol.
- Byddai sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar gymhwyster ysgol gynradd (TAR) mewn maes pwnc perthnasol. Mae profiad blaenorol o addysgu neu gyflwyno mewn ysgol yn hanfodol, ynghyd â dealltwriaeth gadarn o raglenni Microsoft Office (Word, Excel & Outlook). Mae Gradd/ HND perthnasol yn hynod ddymunol ond nid yw'n hanfodol.

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae'r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a'r broses asesu yn y Gymraeg.

**Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau ceisiadau yw 11/01/2023 yr 12:00pm.**

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

**Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.**

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun hyderus o ran anabledd.

More jobs from Cardiff and Vale College